Ergyd bellach i dref Hendy-Gwyn wrth i waith gau
Fe wnaeth yr hufenfa gau yn 1998
Fe fydd y ganolfan ddosbarthu llaeth yn Hendy-Gwyn ar Daf yn cau "erbyn y Nadolig," yn ôl gwybodaeth ddaeth i law rhaglen Post Cyntaf BBC Cymru.
Mae 50 yn gweithio yno ar hyn o bryd a'r gwaith yn symud i ganolfan newydd yn Cross Hands.
Ar un adeg roedd cannoedd yn gweithio yn y diwydiant llaeth yn Hendy-Gwyn ar Daf.
Cadarnhaodd cwmni Bibby Distribution y byddai'r ganolfan, sy'n casglu ac yn cludo llaeth i broseswyr, yn cau.
Dywedodd y perchnogion fod agor y safle newydd yn "gyfle gwych i ddatblygu'r busnes".
60 milltirYn ôl y cwmni, mae'r symud wedi "adolygiad manwl o waith y cwmni yn yr ardal".
"Rydym yn trafod gyda'r staff yn Hendy-Gwyn yn unigol," meddai llefarydd.
“Start Quote
End Quote Ron Jenkins Cyn-Faer Hendy-Gwyn ar DafDoes dim byd ar ôl a dim dyfodol fel ma' pethe' yma”
Mae nifer yn anhapus gan y byddai mynd i'r ganolfan newydd yn daith ddwyffordd o fwy na 60 milltir.
Ond does 'na ddim gwybodaeth a fydd y staff yn cael cynnig swyddi yn y ganolfan newydd.
Ond mae rhai aelodau o staff wedi dweud na allen nhw fforddio teithio i'r safle newydd am eu bod yn byw yn Sir Benfro ac yn teithio cryn bellter i Hendy-Gwyn yn barod.
Dywedodd cynghorydd tref a chyn-Faer Hendy-Gwyn, Ron Jenkins, fod y newyddion yn "siom enfawr".
"Mae'n ddiwrnod trist ofnadwy. Does dim diwedd ar golli pethe oddi yma.
"O'dd ffatri fwya' Ewrop nes iddi ddiflannu dros nos yn y 1990au a ry'n ni nôl yn yr un man.
"Does dim byd ar ôl a dim dyfodol fel ma' pethe' yma."
CysylltiadMae'r ganolfan ddosbarthu yn Hendy-Gwyn ger hen safle'r hufenfa gaeodd yn 1994 gyda 150 yn colli eu gwaith.
Yr unig gysylltiad gyda'r diwydiant llaeth fydd safle potelu bach, y Proper Welsh Milk Company, a agorwyd y llynedd.
Ar ddechrau'r flwyddyn fe gafodd oriau banc NatWest y dref eu cwtogi gyda'r drysau ar agor ar ddydd Mawrth.
Mae'r cyhoeddiad diweddara' wedi siomi pobl fusnes y dref.
"Mae'n dipyn o ergyd," meddai Gerald Blain, perchennog cwmni syrfewyr. Roedd yn dipyn o syndod clywed y newyddion.
"Dwi'n credu fydd hi'n dipyn o broblem i'r dref, does 'na ddim swyddi newydd sylweddol yn cael eu creu yma."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~53~RS~)

OFCOM yn herio Comisiynydd
Tân: Diffoddwyr ar y safle o hyd
Sir yn croesawu'r Urdd
Dosbarth ei hun
Dau app Cymraeg
Siwrne olaf