£10,000 i hyfforddi ACau yn 'benderfyniad gwarthus'
Cafodd 10 sesiwn hyfforddi eu cynnal ymhlith aelodau'r Cynulliad
Mae penderfyniad gan Gomisiwn y Cynulliad i roi hyfforddiant i aelodau sut i ofyn cwestiynau wedi cael ei ddisgrifio fel un "gwarthus".
Rhoddwyd £10,000 i gwmni bargyfreithiwr o'r Alban am 10 sesiwn hyfforddiant ym Mae Caerdydd.
Yn ôl y Comisiwn, cafodd y sesiynau unigol eu datblygu yn unol ag amcanion y rhai fu'n cymryd rhan.
Sefydlwyd Core Solutions yn y flwyddyn 2000 gan John Sturrock QC.
Mae gwefan y cwmni yn ei ddisgrifio fel "arloeswr mewn gwasanaethau cymodi a hyfforddiant lefel uchel yn y byd busnes, yn Yr Alban a thu hwnt".
Rhoddwyd cyngor i Aelodau Cynulliad sut i gwestiynu gweinidogion o'r Llywodraeth pan oedden nhw'n ymddangos gerbron pwyllgorau craffu.
'Gwastraff'Cafodd rhai gyngor o ran sut i eistedd a ble i leoli eu hunain o amgylch y bwrdd tra bod eraill wedi derbyn cyngor ynglŷn â'r hyn yr oedden nhw'n ei wisgo.
“Start Quote
End Quote Rod Richards Cyn-Arweinydd y Ceidwadwyr yn y CynulliadFe ddylai cywilydd fod ar unrhyw aelod sy'n derbyn y cynnig”
Mae cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Rod Richards, yn dweud bod arian cyhoeddus wedi ei wastraffu.
"Mae hyn yn warthus mewn cyfnod pan mae pawb arall yn gorfod cwtogi ar eu gwariant, pan mae adrannau o Lywodraeth yn cwtogi, bod y comisiwn yn gwario arian newydd ar rywbeth sydd yn ddi-werth ac sydd ddim ei angen.
"Fe ddylai cywilydd fod ar unrhyw aelod sy'n derbyn y cynnig."
Yn ôl Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, mae craffu ar waith y Llywodraeth yn rhan allweddol o swydd yr aelodau a bu galw am hyfforddiant o'r fath.
"Ni allaf ddeall pam y byddai unrhyw un yn beirniadu Aelodau'r Cynulliad am gael y cyfle i fanteisio ar hyfforddiant a fydd yn gwella ac yn cynyddu eu sgiliau o ran dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, craffu ar gyfreithiau Cymru a mynd i'r afael ag anghenion eu hetholwyr," meddai.
"Cafodd yr aelodau eu hethol i wneud yn union hynny, ac fel sy'n digwydd mewn unrhyw broffesiwn neu fan gwaith, mae dulliau a ffyrdd o weithio yn datblygu ac yn gwella, felly mae ond yn iawn fod Aelodau'r Cynulliad yn cael yr un cyfleoedd datblygu â gweithwyr proffesiynol eraill yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat.
Cafodd un sesiwn ei gynnal gyda chadeiryddion pwyllgorau'r cynulliad.
'Methu cyfiawnhau'r gost'
Mae Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes yn dweud bod gan y comisiwn gwestiynau i'w hateb.
"Fe gefais i rywfaint o fudd o'r sesiynau ond a fydden i yn mynd eto o wybod am y gost? Na," meddai Nick Ramsay.
"Yn fy marn i, alw chi ddim cyfiawnhau'r gost, wrth gwrs ddim.
"Mae'n rhaid i ni edrych yn ofalus ar faint o arian sy'n cael ei wario a'r math o benderfyniadau sy'n cael eu gwneud o safbwynt arian cyhoeddus."
Yn 2008 cytunodd Senedd Yr Alban ar gytundeb allai fod werth £70,000 i gwmni John Sturrock dros bum mlynedd er mwyn hyfforddi gwleidyddion yno.
Hyd yma maen nhw wedi talu bron i £13,000.
Yng Nghymru mae'r comisiwn yn dweud eu bod yn barod i gynnal mwy o sesiynau hyfforddi drwy law Core Solutions pe bai galw gan aelodau.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~32~RS~)

'Sylw i Loegr' yn niweidio democratiaeth
Cymraes yw gobaith mawr Prydain
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?