Dau wedi eu trywanu mewn garej yn Llanfairpwll

Garej Ty'n Lon yn Llanfairpwll Digwyddodd y trywanu am 10pm nos Fawrth

Mae dyn 55 oed wedi cael ei arestio wedi i ddau gael eu trywanu mewn gorsaf betrol yn Llanfairpwll ar Ynys Môn nos Fawrth.

Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru fod hyn ar gwrt blaen garej Ty'n Lon a bod y dyn yn cael ei holi yng Ngorsaf Heddlu Caernarfon.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andrew Williams, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Am tua 10pm roedd digwyddiad ar gwrt blaen y garej lle cafodd dau berson lleol yn eu 50au eu trywanu.

"Mi gafodd dynes anaf i'w brest ac mi gafodd ei chydymaith ei drywanu yn ei wddf, gan achosi anaf difrifol.

"Cafodd y ddynes driniaeth yn yr ysbyty cyn cael mynd adref. Ond mae'r dyn yn parhau yn Ysbyty Gwynedd wedi iddo gael llawdriniaeth y bore 'ma (Mercher)"

Dywedodd ei fod mewn cyflwr sefydlog ac yn siarad â heddweision.

'Arestio'

"Mae'r garej mewn ardal brysur ac mi oedd y digwyddiad ar adeg o'r nos pan fyddai digon o bobl o gwmpas.

"Hoffwn felly apelio at unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu a welodd beth ddigwyddodd ar gwrt blaen y garej, i gysylltu â ni."

Gall pobl ffonio'r heddlu ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.