Gwahardd Paul Flynn o'r Senedd

Paul Flynn Paul Flynn: Wedi ei wahardd am weddill y dydd

Mae Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn, wedi ei wahardd o siambr Tŷ'r Cyffredin.

Yn ystod dadl am strategaeth NATO yn Afghanistan cyhuddodd y Gweinidog Amddiffyn, Phillip Hammond, o ddweud celwydd wrth y Senedd am y sefyllfa yn y wlad honno.

Pan ofynnodd y Llefarydd Mr Bercow iddo dynnu ei sylwadau'n ôl gwrthododd yr AS.

"Rhaid i mi lynu at fy nghyhuddiad i, mae hyn yn bwysicach na gadael i griw o bobol anfon ein milwyr i farw'n ofer ..."

Mae wedi'i wahardd o'r Siambr am bum niwrnod a dywedodd y gweinidog fod sylwadau Mr Flynn "yn gywilyddus".

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.