Leanne Wood yn addo 'bargen newydd werdd'
Leanne Wood: 'Tanddatblygiad economaidd yw'r rhwystr pennaf ...'
Mae Arweinydd Plaid Cymru wedi addo "bargen newydd werdd" i geisio hybu'r economi.
Roedd Leanne Wood yn annerch cynhadledd flynyddol ei phlaid yn Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu.
Dywedodd fod Plaid Cymru'n bwriadu "darparu sgiliau, gwaith â chyfleoedd" i bobl ifanc ac y bydden nhw'n canolbwyntio ar faterion oedd yn bwysig i bleidleiswyr yn lle materion cyfansoddiadol.
Ail-godi'r economi Gymreig a chreu swyddi yw thema'r gynhadledd ddechreuodd fore Gwener.
"Tanddatblygiad economaidd yw'r rhwystr pennaf i'n datblygiad ni fel gwlad," meddai Ms Wood.
PwerdyUn o'r deddfau cyntaf y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn ei phasio, meddai, fyddai un yn sefydlu pwerdy cenedlaethol.
"Byddwn ni'n buddsoddi mewn strwythur genedlaethol o ynni llanw, ynni gwynt a hydro dan berchnogaeth y gymuned, sy'n canolbwyntio ar ein hanghenion ein hunain.
"Ni fydd llywodraeth yn San Steffan, beth bynnag ei lliw, yn blaenoriaethu buddianau Cymru.
"Os nad ydi banciau Llundain yn rhoi menthyg arian i fusnesau Cymru, rydyn ni angen creu system ariannol ein hunain (drwy sefydlu) banc cyfanwerthu ar gyfer y sector mentrau cymdeithasol, rhwydwaith o undebau credyd a throi'r clytwaith o fenthycwyr cymdeithasol yn gorff arbedion cenedlaethol."
Dywedodd ei bod hi wedi gofyn i gomisiwm economaidd ei phlaid edrych ar sut y byddai'n creu "Cymru arloesol, fentrus er mwyn cyfuno'r gorau o'r sectorau cyhoeddus a phreifat ..."
Yn y gynhadledd sy'n para am ddau ddiwrnod mae cynadleddwyr yn trafod diweithdra ieuenctid, datgloi pŵer pwrcasu Cymru, pwysigrwydd cymdogaethau cryf, dyfodol y Deyrnas Gyfunol yn ogystal ag addysg uwch yng Nghymru.
“Start Quote
End Quote Helen Mary Jones Cadeirydd Plaid CymruCred Plaid Cymru mai dim ond trwy gymryd mwy o'r awenau yma yng Nghymru y gallwn greu'r genedl lwyddiannus y gwyddom y medrwn fod”
Y pwyslais yw bod strategaeth Plaid Cymru yn cynnig atebion i broblemau pobol yn eu bywydau dydd-i-ddydd yn hytrach na chanolbwyntio ar ddadlau o blaid annibyniaeth.
Cyn y gynhadledd dywedodd Helen Mary Jones, Cadeirydd Plaid Cymru: "Rydyn ni'n falch iawn o fod yn cyfarfod yn Aberhonddu ac y mae dewis y dref ar gyfer ein cynhadledd flynyddol yn arwydd o'n penderfyniad i estyn allan i gymunedau ym mhob rhan o Gymru.
"Ni yw plaid genedlaethol Cymru."
'Y bwlch economaidd'Mynd i'r afael â phroblemau economaidd Cymru fyddai blaenoriaeth y blaid, meddai.
"Lledodd y bwlch economaidd o dan y llywodraeth Lafur ddiwethaf yn San Steffan ac mae hynny'n parhau dan y llywodraeth Glymblaid.
"Cred Plaid Cymru mai dim ond trwy gymryd mwy o'r awenau yma yng Nghymru y gallwn greu'r genedl lwyddiannus y gwyddon ni y gallwn ni fod.
"Yn ddiamau, mae gennym y ddawn i lwyddo - mae ein gorffennol yn profi y gallwn arwain y byd mewn arloesedd ac uchelgais.
"Mae'n bryd i ni yn awr ailddarganfod y penderfyniad hwn i lwyddo."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~13~RS~)

AS 'yn gwadu pob honiad'
Hafan y Llewod ar bbc.co.uk/cymru
Hyrwyddo Maes B
'Enillydd teilwng'
Ymgynghori?