Gorfodi rhyddhau chwaraewyr i'r Llewod?

Hyfforddwr Cymru a'r Llewod Warren Gatland Mae Warren Gatland wedi bod yn trafod rhyddhau chwaraewyr gyda chlybiau Ffrainc

Straeon Perthnasol

Mae wedi dod i'r amlwg fod gan dîm y Llewod yr hawl i fynnu bod clybiau yn rhyddhau chwaraewyr ar ddechrau eu taith 2013 i Awstralia.

Roedd clwb Toulon yn Ffrainc wedi dweud na fydden nhw'n rhyddhau'r prop o Gymru, Gethin Jenkins, petai nhw'n cyrraedd rownd derfynol y 14 Ucha' yn Ffrainc ar Fehefin 1.

Ond mae rheolau'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn golygu y gallai'r hyfforddwr Warren Gatland fynnu fod y chwaraewyr ar gael i'r Llewod.

A gallai fynnu eu bod yn cael eu rhyddhau bum niwrnod cyn y gêm yn erbyn y Barbariaid yn Hong Kong ddechrau Mehefin.

Mae rheol 9.6b y bwrdd yn nodi: "Mae Taith y Llewod pob pedair blynedd yn ddigwyddiad dynodedig a bydd pob chwaraewr sy'n cael ei ddewis yn cael ei ryddhau.

"Bydd y cyfnod rhyddhau'n cychwyn fel arfer ar Fehefin 1 ac yn dod i ben fel arfer ar yr ail wythnos ym mis Gorffennaf yn y flwyddyn dan sylw."

Ac mae rheol 9.9 yn ychwanegu y dylai chwaraewyr "fod ar gael i hyfforddi o leia' bum niwrnod clir cyn dechrau'r gemau rhyngwladol, taith ryngwladol neu gystadleuaeth ryngwladol".

Rhybudd

TAITH Y LLEWOD I AWSTRALIA 2013

  • Sad, Mehefin 1 - Barbariaid, Hong Kong
  • Mer. Mehefin 5 - Western Force, Perth
  • Sad. Mehefin 8 - Queensland Reds, Brisbane
  • Mer. Mehefin 12 - Tîm cyfunol New South Wales-Queensland Country, Newcastle
  • Sad Mehefin 15 - New South Wales Waratahs, Sydney
  • Maw. Mehefin 18 - ACT Brumbies, Canberra
  • Sad. Mehefin 22 - Prawf Cyntaf, Brisbane
  • Maw. Mehefin 25 - Melbourne Rebels, Melbourne
  • Sad. Mehefin 29 - Ail Brawf, Melbourne
  • Sad. Gorffennaf 6 - Trydydd Prawf, Sydney

Roedd hyfforddwr Cymru wedi mynd i Ffrainc ar Fedi 5, ddiwrnod ar ôl cael ei benodi i hyfforddi'r Llewod, i drafod gyda nifer o chwaraewyr a'u clybiau.

Roedd Gatland eisoes wedi rhybuddio chwaraewyr oedd wedi'u lleoli yn Ffrainc y byddai'u siawns o gael eu cynnwys yn y garfan yn lleihau os nad oeddynt ar gael ar gyfer dechrau'r daith.

Ond ar ôl cwrdd â Gatland, dywedodd pennaeth Toulon Bernard Laporte wrth bapur newydd L'Equipe: "Fe wnaethon ni drafod y posibilrwydd o ryddhau Gethin Jenkins.

"Fe ddywedon ni eto na fyddan ni'n ei ryddhau i'r Llewod ar Fai 27 os ydyn ni'n cyrraedd rownd derfynol yr 14 Ucha'. Roedd yn deall. Rwy'n credu ei fod yn gwybod hynny cyn do i'r cyfarfod."

Ychwanegodd Toulon fod gêm Cymru yn erbyn Awstralia ar Ragfyr 1 yn disgyn y tu allan i 'ffenestr' ddynodedig y Prawf ac na fyddai Jenkins ar gael ar gyfer honno chwaith.

Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol: "Mae'r Undebau dan sylw yn gyfarwydd â'r polisi yn ymwneud â rhyddhau chwaraewyr i'r Llewod fel sydd wedi'i amlinellu yn rheol rhif 9."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.