Gweithwyr sifil Cymru sy'n diodde' waetha', yn ôl ymchwil
Dydd Sul yw diwrnod cynta' cynhadledd y Gyngres Undebau Llafur
Gweision Sifil Cymru sydd fwyaf ar eu colled yn holl wledydd Prydain oherwydd toriadau'r llywodraeth glymblaid.
Dyna mae ymchwil undeb y PCS yn ei ddweud ar drothwy cynhadledd y Gyngres Undebau Llafur.
Ar gyfartaledd mae incwm gweision sifil wedi gostwng £770 yn y chwe mis diwetha'.
Mwy o daliadau pensiwn a mwy o gostau byw yw'r prif resymau, yn ôl y rhai gafodd eu holi.
Eisoes mae'r llywodraeth wedi dweud nad yw cynlluniau pensiwn yn fforddiadwy am fod pobl yn byw'n hirach.
Yn y gynhadledd bydd aelodau'r undeb yn galw am weithredu diwydiannol dros gyflogau, pensiynau a swyddi wedi gorymdeithiau yn Llundain, Glasgow a Belffast ar Hydref 20.
Bydd cynadleddwyr yn trafod y Wladwriaeth Les, Gaza, ynni cynaliadwy, a sicrhau bod y banciau'n fwy atebol i'r cyhoedd.
88%Mae'r ymchwil wedi awgrymu bod sefyllfa 88% yng ngwledydd Prydain yn waeth wedi cyllideb George Osborne.
Roedd 90% wedi cyfyngu ar wario a 92% wedi dweud eu bod o dan fwy o bwysau ers chwe mis oherwydd yr economi a swyddi.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymreig yr undeb, Peter Harris: "Rhaid cofio bod Cymru'n fwy dibynnol ar y sector cyhoeddus ... mae mwy na 25% o weithwyr yn y sector.
"Felly mae effaith toriadau'r llywodraeth yn ddifrifol iawn.
"Bydd economi Cymru ar ei cholled oherwydd pŵer gwario llai ein haelodau a rhaid gwneud safiad er mwyn amddiffyn safonau byw."
Mae cynlluniau'r llywodraeth ar sail ymchwiliad annibynnol yr Arglwydd Hutton i gostau cynyddol pensiynau.
O 2015 ymlaen dylai'r rhan fwya' o staff presennol a staff newydd gael cynnig cynllun wedi ei seilio ar gyflog cyfartalog yn lle un wedi ei seilio ar gyflog terfynol.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~05~RS~)

'Sylw i Loegr' yn niweidio democratiaeth
Cymraes yw gobaith mawr Prydain
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?