Enwi ysgol newydd ar ôl y bardd a'r awdur T Llew Jones
Mae'r ysgol ardal yn lle pedair ysgol bentref sydd wedi cau
Mae ysgol newydd ar gost o £5 miliwn yng Ngheredigion wedi ei henwi ar ôl Brenin Llên Plant Cymru.
Fe agorodd Ysgol T Llew Jones ym Mrynhoffnant ger Llandysul wedi i bedair ysgol lai gau.
Roedd Mr Jones o bentre' Pontgarreg gerllaw a hefyd yn gyn-brifathro ysgol.
Cyfarnnodd yr awdur, fu farw yn 93 oed ym mis Ionawr 2009, yn helaeth at lenyddiaeth plant - ysgrifennodd dros 50 o lyfrau, 35 ar gyfer plant, yn ystod gyrfa o dros 50 mlynedd.
Defnydd lleolMae'r ysgol yn gwasanaethu'r ardal wedi i ysgolion Blaenporth, Glynarthen, Rhydlewis a Phontgarreg gau.
Roedd T Llew Jones ei hun yn brifathro
Mae 'na lwyfan, offer goleuo a sain ar gyfer cynyrchiadau theatrig yn y neuadd ac mae 'na offer technoleg gwybodaeth ac ardal ar gyfer cyfarfodydd.
"Mae'r adnoddau sydd yn yr ysgol yn arbennig, yn enwedig y ddarpariaeth yn y neuadd," meddai'r Cyngorydd Hag Harris, aelod cabinet y cyngor â chyfrifoldeb am addysg.
"Dwi'n siŵr y bydd y gymuned ehangach yn defnyddio'r ysgol a'r adnoddau sydd ar gael."
Roedd Mr Jones yn "gyfathrebwr heb ei ail" ac yn defnyddio cymeriadau chwedlonol a llefydd lleol ar gyfer ei straeon.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~39~RS~)

Ynys Môn: Comisiynwyr yn gadael
Achos April: Tystiolaeth yn dod i ben
Llwyfan i dalent y sir
Cyhoeddi dau app Cymraeg newydd
Sioe myfyrwyr yn delio â dementia
Cân y babis