Beverly Jones yn ennill medal efydd am daflu disgen

Beverley Jones Mae'r wraig 37 oed o Sir y Fflint yn athletwraig dalentog

Straeon Perthnasol

Mae'r Gymraes, Beverley Jones, wedi ennill medal efydd yn y taflu disgen F37.

Na Mi o China enillodd gyda thafliad o 35.35m a Qiuping Xu o China gafodd y fedal arian gyda thafliad o 32.08m.

Tafliad y Gymraes oedd 30.99m.

Dywedodd ei bod hi'n "emosiynol iawn" pan gyflawnodd ei champ ddydd Gwener.

"Dwi'n hapus iawn. Roedd yn werth aros am y fedal yn y pen draw.

"Ers amser hir dwi wedi paratoi a hyfforddi'n galed ... roedd angen ffydd yn fy hun a llwyddais i gyda'r tafliad ola'."

Roedd hi wedi cael siom yn gynharach yn y gemau wrth orffen yn seithfed yn y taflu pwysau ond ei thafliad ddydd Iau oedd yr un gorau y tymor hwn.

Mae'r wraig 37 oed o Sir y Fflint yn athletwraig dalentog - mae ganddi fedal Gymanwlad am y 100m ac mae hi hefyd yn chwarae criced i Gymru.

Enillodd y fedal efydd yn y Gemau Gymanwlad ym Melbourne yn 2006.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.