Ceisio unioni dyddiadau ysgolion ar draws Cymru

Calendr Mae 'na alw am gysoni dyddiadau ysgol pob awdurdod yng Nghymru

Straeon Perthnasol

Fe wnaeth Gweinidog Addysg Cymru gyhoeddi ei fod yn cychwyn ymgynghoriad ffurfiol i edrych ar ddyddiadau'r tymhorau ysgol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn treulio 12 wythnos yn ymgynghori ar y pwnc.

Mae Leighton Andrews yn gobeithio sicrhau nad ydi dyddiadau gwyliau ysgol yn amrywio o sir i sir.

Dywedodd bod y drefn bresennol yn achosi trafferthion i deuluoedd.

Ond mae'r Ceidwadwyr wedi mynegi amheuon a ddylid rhoi rhagor o bwerau i'r gweinidog, ar draul y cynghorau sir.

Fe fydd yr ymgynghoriad yn cael effaith ar ysgolion sydd o dan reolaeth yr awdurdodau addysg.

Ar hyn o bryd cynghorau sir sy'n gosod y dyddiadau, ac fe all y rhain amrywio o sir i sir.

Dywedodd Mr Andrews nad oes 'na reidrwydd cyfreithiol ar y cynghorau i gydweithio na chwaith cyrff llywodraethwyr ysgolion preifat a'r cynghorau.

"Mae ymdrechion gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gael consensws rhwng awdurdodau o ran dyddiadau wedi bod hyd yma yn aflwyddiannus," meddai.

Start Quote

Drwy orfodi awdurdodau i gydweithio yn gyfreithiol, dwi'n gobeithio y bydd modd cael dyddiadau tymor cenedlaethol”

End Quote Leighton Andrews AC Gweinidog Addysg Cymru

Defnyddiodd enghraifft o blant yn derbyn eu haddysg mewn sir wahanol i le mae un o'r rhieni yn dysgu yn cael gwyliau Pasg gwahanol.

Cytuno ar ddyddiadau

"Mae hyn yn cael effaith ar drefniadau gwyliau, trefniadau gofal plant," meddai.

"Fy mwriad yw cytuno ar ddyddiadau ysgol drwy Gymru gyda gwahaniaethau yn deillio lle mae hynny yn gallu cael ei gyfiawnhau," meddai.

"Drwy orfodi awdurdodau i gydweithio yn gyfreithiol, dwi'n gobeithio y bydd modd cael dyddiadau tymor cenedlaethol."

Wrth ymateb dywedodd Anna Brychan o undeb NAHT Cymru eu bod yn croesawu cael amser gwyliau cyffredin drwy Gymru.

"Mae'n anodd iawn i deuluoedd sy'n athrawon a gweithio mewn awdurdodau gwahanol a phlant mewn ysgolion drefnu gwyliau."

Ychwanegodd Philip Dixon, cyfarwyddwr ATL Cymru, bod cynlluniau i gael dyddiadau'r un fath wedi bodoli ers blynyddoedd.

"Yn aml iawn, bach iawn o reswm sydd pam bod 'na ddyddiadau gwahanol gan awdurdodau, ac mewn gwlad fach gyda 22 awdurdod sir, mae'n bosib cael 22 o ddyddiadau gwahanol.

"Dwi'n falch fod y gweinidog yn codi hyn ac y bydd yn ymyrryd oni bai bod yr awdurdodau yn gwneud rhywbeth."

Fe ddaw'r cyfnod ymgynghorol i ben ar Dachwedd 26.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.