Byrddau iechyd yn cynnal ymgynghoriad i drafod ad-drefnu

Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli  Mae Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli yn rhan o'r cynlluniau ad-drefnu sydd gan y bwrdd o dan sylw

Straeon Perthnasol

Dros yr wythnosau nesaf bydd cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus gan Fyrddau Iechyd Hywel Dda a Betsi Cadwaladr er mwyn i'r cyhoedd holi cwestiynau am eu cynlluniau ad-drefnu a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Bydd y cyfarfod cyntaf gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ym Mharc y Scarlets nos Fawrth, Medi 4 am 7pm.

Mae'r bwrdd wedi cyhoeddi cynlluniau ad-drefnu gwasanaethau yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro fis yn ôl.

Ond dywed protestwyr nad yw pryderon staff a chleifion wedi cael eu hystyried.

Yr wythnos diwethaf roedd dros 60 o bobl yn protestio y tu allan i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, yn erbyn cynlluniau'r bwrdd.

Dyma oedd yr ail brotest i Dîm Gweithredu Achub Llwynhelyg ei chynnal.

Mae'r ymgyrchwyr yn dweud eu bod yn bwriadu cynnal gorymdaith ar Fedi 27 a ddaw i ben ym Mae Caerdydd.

Dywed y bwrdd nad yw'r strwythur presennol yn gallu ymdopi gyda phoblogaeth sy'n heneiddio a phrinder meddygon.

Gogledd

DYDDIADAU CYFARFODYDD

  • Medi 6 Canolfan Gymunedol Blaenau Ffestiniog
  • Medi 7 Siambr y Cyngor Llangefni
  • Medi 10 WCVA, Neuadd Morfa Y Rhyl
  • Medi 11 Sinema Scala, Prestatyn
  • Medi 12 Neuadd y Plwyf, Y Waun
  • Medi 14 Parc Eirias, Bae Colwyn
  • Medi 18 Siambr y Cyngor, Y Fflint
  • Medi 19 Gwesty'r Corbett Arms, Tywyn
  • Medi 20 Canolfan Gymunedol Llanfwrog, Ruthun
  • Medi 21 Clwb Hwylio, Pwllheli
  • Medi 24 Canolfan Chwaraeon Dwr Plas Menai, Caernarfon
  • Medi 25 Canolfan Cymunedol Craig y Don, Llanduno
  • Medi 26 Neuadd y Dref, Llangollen
  • Medi 28 Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug
  • Hydref 1 Canolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndwr, Wrecsam

Fe fydd cyfres o gyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y gogledd i drafod newidiadau arfaethedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae'r bwrdd wedi cyflwyno dogfen ymgynghorol ar gyfres o ad-drefnu gwasanaethau ysbytai o fewn y bwrdd.

Fe fydd y cyfarfodydd cyntaf yng Nghei Connah ddydd Mawrth am 2pm, 4pm a 6pm.

Dywed y bwrdd "eu bod yn gweithio tuag at newidiadau i wasanaethau iechyd er mwyn gwella gofal y claf".

Daw hyn wedi cyfnod adolygu "estynedig a arweiniwyd gan glinigwyr, staff, y cyhoedd a'n partneriaid".

Mae'r bwrdd yn rhagweld diffyg ariannol o £64.6 miliwn eleni.

Cau unedau

O dan gynlluniau a gyhoeddwyd yn gynharach eleni fe all ysbytai cymunedol Y Fflint a Blaenau Ffestiniog gau ac fe all uned man anafiadau sawl ysbyty arall ddiflannu.

Fe fyddai hyn yn cael effaith ar ysbytai Blaenau Ffestiniog, Bae Colwyn, Y Fflint, Yr Wyddgrug, Y Waun, Llangollen a Rhuthun.

Gallai'r adrannau pelydr-X gau ym Mlaenau Ffestiniog, Bryn Beryl ger Pwllheli, Tywyn, Ysbyty Eryri, Yr Wyddgrug a Rhuthun.

Mae'r argymhellion o blaid newid y ddarpariaeth ar gyfer henoed fydd yn golygu cau ward Hafan ym Mryn Beryl a Ward Meirion yn Nolgellau.

Mae 'na bryder y byddai'r gofal dwys newydd-anedig yn cael ei drosglwyddo dros y ffin.

Er mwyn mynychu un o'r cyfarfodydd mae angen cysylltu gyda'r bwrdd ar 0800 678 5297.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.