Aur i Ellie Simmonds
Ellie Simmonds
Mae Ellie Simmonds wedi ennill medal aur yn rownd derfynol y nofio 400m dull rhydd S6.
Llwyddodd y ferch 17 oed i greu record Paralympaidd newydd, sef 5:19.17 munud.
Ellie yw'r pumed person o Gymru i ennill medal yng ngemau Paralympaidd 2012.
Dywedodd ar ôl y ras: "Mi wnes i wneud fy ngorau glas.
"Dwi wedi blino'n lân. Alla'i ddim credu mod i wedi gwneud hynny. Roedd mor anodd".
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Llongyfarchiadau mawr i Ellie Simmonds ar ei medal aur yn y Gemau Paralympaidd.
"Mae ennill aur mewn dwy gemau yn dipyn o gamp ond mae gwneud hwn erbyn yr oedran o 17 yn anhygoel.
"Da iawn Ellie!"
Fe wnaeth Ellie, a anwyd yn Walsall ond a fagwyd yn Abertawe gan fynychu Ysgol Gyfun Olchfa, ennill dwy fedal aur yn y Gemau Paralympaidd yn China yn 2008 pan oedd hi'n 13 oed.
EfyddClaire Williams oedd y pedwerydd o Gymru i ennill medal ar ôl ennill medal efydd yn rownd derfynol taflu'r discen (F11/12) ddydd Sadwrn, gyda thafliad o 39.63 metr.
Roedd yr athletwraig 24 oed o Gaerfyrddin, sydd â nam ar ei golwg, wedi gorffen yn bumed yng ngemau Paralympaidd 2008 a 2004.
Claire Williams
~RS~q~RS~~RS~z~RS~13~RS~)

Cyfarfod i benderfynu ar gau ysgolion
Llys: 'Esgyrn penglog dynol'
'Mi glywish i'r awyren yn dod lawr'
Achub Y Cyfnod
Ysbrydoliaeth
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd