Archeb anferth i gwmni Airbus

Awyren Airbus A320

Straeon Perthnasol

Mae cwmni Airbus wedi derbyn archeb anferth am 54 o awyrennau gan gwmni Philippine Airlines (PAL).

Ffatri Airbus ym Mrychdyn, Sir y Fflint, sy'n adeiladu adenydd yr awyrennau A321 ac A330, ac fe fydd yr awyrennau cyntaf yn barod erbyn y flwyddyn nesaf.

Mae'r archeb yn rhan o ailstrwythuro cwmni PAL. Bydd yr awyrennau llai (A321) ar gyfer teithiau rhanbarthol llai o fewn y wlad, gyda'r awyren lydan (A330) ar gyfer teithiau prysurach, a rhai pellach i'r Dwyrain Canol ac Awstralia.

Dywedodd prif swyddog gweithredoedd cwmni Airbus, John Leahy: "Mae'r archeb yma yn dangos unwaith eto poblogrwydd y teulu A320 ac A330 o awyrennau.

"Dyma yw'r prif awyrennau yn eu maes o safbwynt economaidd, bod yn ddibynadwy a bod yn gyfforddus i'r teithiwr."

Ar hyn o bryd, mae 8,500 o awyrennau A321 wedi cael eu harchebu, a dros 5,200 eisoes wedi eu prynu gan 365 o gwsmeriaid ar draws y byd.

Mae 900 o'r A330 yn cael eu defnyddio ar draws y byd, ac mae archebion am 1,200 arall.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.