Cyhuddo chwaraewr rygbi o ymosod
Chwaraeodd Andrew Bishop i Gymru am y tro cyntaf yn erbyn De Affrica yn 2008
Mae canolwr rygbi Cymru a'r Gweilch, Andrew Bishop, wedi cael ei gyhuddo o ymosod a bydd yn ymddangos gerbron llys fis nesaf.
Cafodd heddlu eu galw i ddigwyddiad yng nghanol Caerdydd yn oriau man fore Llun.
Bydd Mr Bishop, 27 oed ac wedi ennill 16 o gapiau dros Gymru, yn ymddangos gerbron ynadon Caerdydd ar Fedi 27.
Dywedodd clwb y Gweilch na fyddai'n briodol gwneud sylw ar y mater cyn yr achos llys.
Nid yw Heddlu De Cymru wedi enwi'r dyn, ond maen nhw wedi cyhoeddi datganiad sy'n dweud:
"Fe gafodd dyn 27 oed ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad yn oriau man Awst 20 yn Mill Lane, Caerdydd.
"Cafodd ei gyhuddo o ymosod a'i rhyddhau ar fechnïaeth amodol. Bydd yn ymddangos yn y llys ar Fedi 27."
Ymunodd Bishop gyda'r Gweilch yn 2005, ac roedd yn ffigwr amlwg yn nhymor 2006/07 drwy ymddangos 30 o weithiau i'r rhanbarth.
Chwaraeodd i Gymru am y tro cyntaf yn erbyn De Affrica yn 2008, ac enillodd y diweddaraf o'i gapiau yn erbyn y Barbariaid ym mis Mehefin eleni er na fu'n rhan o'r daith i Awstralia a ddilynodd hynny.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~38~RS~)

Cyfarfod i benderfynu ar gau ysgolion
Ysbrydoliaeth
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg?
Tipyn o gamp