Llywodraeth i brynu tir i wella Ffordd Blaenau'r Cymoedd ar gost o £150m

Yr A465 Ffordd ddeuol yr A465 o Dredegar i Ddowlais a gafodd ei gwblhau yn 2004

Straeon Perthnasol

Caiff y tir gerllaw ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465, ei brynu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau gwerth £150 miliwn.

Mae gorchmynion pryniant gorfodol wedi eu cyhoeddi ar gyfer lledu'r ffordd rhwng Brynmawr a Thredegar.

Dywedodd y llywodraeth eu bod yn dymuno i'r holl ffordd o'r Fenni i Gastell-nedd fod yn ffordd ddeuol erbyn 2020, yn hytrach na bod rhannau o'r ffordd yn dair lôn.

Maen nhw am wella diogelwch y ffodd a thaclo'r ardaloedd peryglus.

Mae'r gwaith o ledu'r ffordd rhwng Tredegar a Dowlais eisoes wedi ei gwblhau.

Pum milltir yw'r cymal nesaf rhwng Brynmawr a Thredegar.

Yn ogystal mae'r llywodraeth am weld llwybr beics 3km ac arhosfan newydd yn Garn Lydan gyda maes parcio mwy ar gyfer golygfeydd o Fannau Brycheiniog a pharc rhanbarthol y Cymoedd.

Start Quote

Mae'r A465 yn un o brif wythiennau'r rhwydwaith trafnidiaeth rhwng gorllewin Cymru a chanolbarth Lloegr”

End Quote Carl Sargeant AC Gweinidog Trafnidiaeth
Gwerthu fferm

Mae'r gorchymyn - sy'n caniatáu rhai cyrff i gael tir neu eiddo heb ganiatâd y perchennog - yn ymdrin â thir comin ac ychydig o dai.

Fe fydd y datblygiad yn cael effaith ar dir o amgylch Parc Diwydiannol Rasa, gorsaf gwasanaethau Ambay a'r mynediad i Fynwent Dukestown yn Nhredegar.

"Dwi wedi bod yn delio gyda hyn am dros 10 mlynedd," meddai'r Cynghorydd John Williams, sy'n cynrychioli Rasa ers 37 mlynedd, ac sydd wedi gorfod gwerthu ei ffarm a thir fel rhan o gynllun y ffordd ddeuol.

"Roedd gen i fferm, yn ffermio rhan amser gyda fy mrawd, dyna lle ces i fy magu.

"Cafodd y tir ei brynu ac fe symudais 10 mlynedd yn ôl.

"Fe fues i'n trafod gyda nhw am bum mlynedd cyn symud i fyngalo. Roedd hi'n drist ar y pryd ond dwi'n sylweddoli nawr y byddai'n anodd parhau i ffermio."

Ychwanegodd ei fod yn credu bod lledu'r ffodd yn bwysig gan ei fod yn denu swyddi i'r ardal sydd wedi ei llethu gan ddiweithdra.

"Mae 'na rywfaint o bryder ond ar y cyfan dwi'n credu fod hyn yn beth da," meddai.

"Y prif bryder yw sŵn o'r ffordd."

Cynlluniau

Mae'r A465 yn un o ffyrdd prysuraf Cymru gyda 473 damwain wedi eu cofnodi yno rhwng 2005 a 2010.

"Mae'r A465 yn un o brif wythiennau'r rhwydwaith trafnidiaeth rhwng gorllewin Cymru a chanolbarth Lloegr," meddai Carl Sargeant, y gweinidog trafnidiaeth, wedi'r cyhoeddiad diweddara fis Gorffennaf.

"Bydd gwneud y ffordd gyfan yn un ddeuol yn gwella diogelwch ac yn lleihau amser i deithwyr ac yn cyfrannu'n economaidd i'r ardal ehangach."

Ym mis Hydref fe gafodd cynlluniau eu harddangos ar gyfer gwaith £206 miliwn rhwng Gilwern a Brynmawr.

Mae disgwyl i'r gwaith ar y ddau ran diweddara', o Hirwaun i Ddowlais ar draws yr A470, fod yn cychwyn ar ôl Ebrill 2014.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.