Adeiladau hanesyddol yn agored yn rhad ac am ddim

Swyddfeydd Cyffredinol hen weithfeydd Glyn Ebwy Un o'r atyniadau yw Swyddfeydd Cyffredinol hen weithfeydd Glyn Ebwy

Bydd 400 o adeiladau hanesyddol a safleoedd anarferol Cymru yn croesawu miloedd o ymwelwyr yn ystod mis Medi.

Mae hyn yn rhan o raglen Drysau Agored pan fydd safleoedd yn agored yn rhad ac am ddim.

Y bwriad yw dathlu pensaernïaeth a threftadaeth Cymru.

Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru sy'n trefnu gyda chymorth Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.

Mae'r safleoedd yn cynnwys ysbyty o'r 19fed ganrif, tŷ weindio pwll glo, theatr hynaf Cymru, gwersyll carcharorion rhyfel a gorsaf trydan dŵr.

Fel arfer mae Hafoty, tŷ neuadd canoloesol yng ngofal Cadw yn ymyl Llansadwrn, Sir Fôn, ar gau i ymwelwyr.

'Gwirfoddoli'
Eglwys Gatholig Rufeinig Eglwys Sant Mihangel, Pill, Casnewydd Safle arall: Eglwys Sant Mihangel yng Nghasnewydd

Mae 'na gyfle i weld sut mae Canolfan Reoli morglawdd mwyaf Cymru yn gweithio, pori yng nghasgliad llyfrau prin prifysgol a hyd yn oed ddringo tŵr cloc gafodd ei godi ers mwy na 100 mlynedd.

Drysau Agored yw rhaglen wirfoddoli fwyaf y sector treftadaeth ac mae mwy na 700 o ddigwyddiadau wedi eu trefnu, gan gynnwys teithiau tywys, llwybrau treftadaeth, darlithoedd, arddangosfeydd a chyngherddau.

"Mae Drysau Agored yn rhaglen wych sy'n rhoi cyfle i bawb edrych ar ei dreftadaeth leol," meddai Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth.

"O arddangosfeydd ffotograffig i deithiau tywys, mae yna gannoedd o ddigwyddiadau cyffrous ledled y wlad i helpu dod â hanes Cymru'n fyw."

Eleni mae cystadleuaeth ffotograffiaeth sy'n cael ei chefnogi gan Cadw.

Yn ystod mis Medi mae 50 o wledydd yn dathlu pensaernïaeth a threftadaeth.

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.