Llofruddiaeth Caergrawnt: Mechnïaeth i ddau

Llywelyn Thomas Roedd Llywelyn Thomas yn ffermio ym Mhen-y-bont ar Ogwr cyn symud i Loegr 12 mlynedd yn ôl

Straeon Perthnasol

Mae dau ddyn gafodd eu hail-arestio gan heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth pensiynwr o dde Cymru yn Sir Caergrawnt, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafwyd hyd i Llywelyn Thomas, 76 oed, yn farw yn ei gartref yn Chittering ar Ragfyr 18.

Mae'r heddlu'n credu i'w gartref yn Chittering gael ei dargedu gan ladron.

Cafodd y ddau ddyn, 25 oed a 20 oed, eu harestio ddydd Llun ac maen nhw wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth tan Fedi 4.

Cafodd y ddau eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Lladrad

Fe wnaeth Mr Thomas, ffermwr wedi ymddeol, symud o ardal Sain Ffagan, Caerdydd, i'r ardal 12 mlynedd yn ôl er mwyn bod yn nes at ei deulu.

Mae dyn 23 oed a bachgen 16 oed yn dal ar fechnïaeth mewn cysylltiad â'r ymchwiliad.

Y gred yw bod Mr Thomas wedi cael ei ladd wrth i rywun geisio lladrata o'i dŷ rhwng 9.30pm a 10pm ar Ragfyr 17.

Cafodd ei gar Rover arian gyda'r rhif cofrestru BJ51 CJV ei ddwyn a chafwyd hyd iddo mewn pentref i'r gogledd ddwyrain o Gaergrawnt, Milton.

Dangosodd archwiliad post mortem iddo farw o anafiadau i'w ben a'i wyneb.

Roedd yn ffermio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr cyn symud i Loegr 12 mlynedd yn ôl.

Roedd yn ŵr gweddw gydag un mab.

Mae gwobr ariannol o £50,000 wedi cael ei gynnig am wybodaeth a fyddai'n arwain at gael rhywun neu rywrai yn euog.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.