Cynnau fflam ar gopa'r Wyddfa

Aelodau'r Sgowtiaid lleol gafodd y fraint o gynnau'r Fflam ar gopa'r Wyddfa Aelodau'r Sgowtiaid lleol gafodd y fraint o gynnau'r Fflam ar gopa'r Wyddfa

Straeon Perthnasol

Mae grŵp o Sgowtiaid o gymunedau ger Yr Wyddfa wedi cynnau fflam ar y copa a fydd yn rhan o Fflam y Gemau Paralympaidd.

Dydd Mercher fe aeth nifer o aelodau ifanc anabl ac abl y Sgowtiaid i'r copa i greu gwreichion ac yna tanio'r fflam ar gyfer Cymru.

Roedd digwyddiadau tebyg wedi eu trefnu ar gyfer copaon ucha' Lloegr (Scafell Pike), Gogledd Iwerddon (Slieve Donard) a'r Alban (Ben Nevis) ar Awst 22.

Wedi mynd i Gopa'r Wyddfa gyda'r Sgowtiaid y mae'r Arglwydd Coe, Cadeirydd Gemau Olympaidd Llundain.

'Ymdrech tîm'

Cafodd y gwreichion eu creu wrth i'r Sgowtiaid rwbio ffon fetel ar ddarn o fetel a hynny mewn amgylchiadau gweddol anffafriol.

Doedd y tywydd ddim yn arbennig i'r Arglwydd Coe (chwith) a'r sgowtiaid Doedd y tywydd ddim yn arbennig i'r Arglwydd Coe (chwith) a'r sgowtiaid

Yn wahanol iawn i'r diwrnod pan wnaeth Y Fflam Olympaidd gyrraedd copa'r Wyddfa, roedd 'na niwl, gwynt a glaw ddydd Mercher.

Yno gyda'r Sgowtiaid yr oedd cyn athletwyr a gwirfoddolwyr.

Dywedodd Yr Arglwydd Coe, a gerddodd i'r copa bod hwn wedi bod "yn ymdrech tîm go iawn".

"Roedd yn oer mewn rhai llefydd ac fe gawson ni seibiant ar y ffordd.

"Ond mae hyn yn creu rhywbeth unigryw ar gyfer taith y Fflam Paralympaidd sy'n ddathliad o ddewrder, benderfyniad, ysbrydoliaeth a chydraddoldeb y mae pob athletwr Paralympaidd yn ei gynrychioli.

"Drwy greu'r Fflam Gymreig drwy ymdrech ddynol ar gopa'r Wyddfa fe fyddwn yn sicrhau bod ysbryd Cymru yn cael ei gynrychioli yn y Fflam."

Ond ychwanegodd ei fod yn bwriadu teithio nôl i Lanberis ar y trên tra bod y Sgowtiaid am gerdded yn ôl.

Uno
Aelodau'r Sgowtiaid lleol gafodd y fraint o gynnau'r Fflam ar gopa'r Wyddfa Aelodau'r Sgowtiaid lleol gafodd y fraint o gynnau'r Fflam ar gopa'r Wyddfa

Wedi cynnau'r fflam ar y copa fe fydd cael ei drosglwyddo i lusern a'i gludo i Gaerdydd ar gyfer seremoni arbennig ddydd Llun.

Fe fydd yn ganolbwynt diwrnod o ddathliadau Paralympaidd yno gan gynnwys cynnau coelcerth y tu allan i Neuadd y Ddinas.

O Gaerdydd fe fydd y Fflam yn cael ei chludo i Stoke Mandeville, cartref ysbrydol y mudiad Paralympaidd.

Bydd yn uno gyda'r tair Fflam arall yn ystod seremoni ar Awst 28 i greu'r Fflam Paralympaidd ar gyfer Gemau Llundain 2012.

Bydd 580 o bobl yn cludo'r Fflam o Stoke Mandeville i'r Stadiwm Olympaidd yn Stratford dros gyfnod o 24 awr ar gyfer cychwyn y Gemau ar Awst 29.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.