Neges Eid y Prif Weinidog

Carwyn Jones

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dymuno'n dda i bob Mwslim wrth iddyn nhw ddathlu'r Eid.

Dywedodd Mr Jones: "Mae Eid al-Fitr, neu Ŵyl Torri'r Ympryd, yn nodi dechrau gwledd sy'n para tri diwrnod ac yn amser dathlu i'r Mwslemiaid.

"Gallwn ni ymfalchïo yn y ffaith fod Cymru'n wlad sydd â hanes o groesawu gwahanol ddiwylliannau a chymunedau, ac o gyd-fyw'n heddychlon.

"Hoffwn i ddymuno'n dda i bob Mwslim yng Nghymru ac ar draws y byd a fydd yn ymgynnull i nodi diwedd mis o ymprydio a gweddïo.

"I bawb sy'n dathlu, rwy'n dymuno 'Eid Mubarak'."

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.