Caerdydd 1-0 Huddersfield

Mark Hudson Capten Caerdydd Mark Hudosn sgoriodd unig gôl yr ornest

Straeon Perthnasol

Caerdydd 1-0 Huddersfield

Dechreuodd tymor Caerdydd yn y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth yn erbyn y newydd-ddyfodiaid Huddersfield yn Stadiwm Caerdydd nos Wener.

Capten Yr Adar Gleision Mark Hudson wnaeth sgorio unig gôl yr ornest gydag ergyd nerthol yn ystod amser ychwanegol i sicrhau bod Caerdydd ar frig y Bencampwriaeth nos Wener.

Roedd nifer o chwaraewyr yn dychwelyd i'r tîm wedi i'r Adar Gleision golli o 2 gôl i 1 yn erbyn Northampton yng Nghwpan Capital One nos Fawrth.

Roedd y rhain yn cynnwys Kevin McNaughton, Mark Hudson, Ben Turner, Andrew Taylor a Craig Bellamy wnaeth chwarae ei gêm gyntaf i'r clwb ers iddo symud o Lerpwl yn ystod yr haf.

Caerdydd: Marshall, McNaughton, Taylor, Hudson, Turner, Whittingham, Cowie, Gunnarsson, Mutch, Helguson, Bellamy

Eilyddion: Lewis, Kiss, Conway, Blake, Velikonja, Earnshaw, Mason.

Huddersfield: Smithies, Dixon, P Clarke, Hunt, Lynch, Norwood, Clayton, Arfield, Southern, Scannell, Novak.

Eilyddion: Bennett, Woods, Gerrard, Robinson, Lee, Higginbotham, Spencer.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.