Pryderon ffermwyr wedi'r tywydd drwg

Crops growing in a field Mae llai o gnydau wedi tyfu ac mae'r ansawdd yn wael yn ôl ffermwyr

Straeon Perthnasol

Mae ffermwyr Cymru yn wynebu blwyddyn anodd wedi i law trwm yr haf effeithio ar gnydau gan gynyddu costau cynhyrchu bwyd, yn ôl undeb amaethyddol.

Mae llai o gnydau wedi cael eu tyfu, ac mae llawer o'r rheini o ansawdd gwael gyda grawn yn brownio a thatws yn datblygu heintiau ffwngaidd.

Dywed NFU Cymru fod ffermwyr hefyd yn wynebu trafferthion am fod bwyd anifeiliaid wedi mynd yn ddrud iawn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn ceisio "ysgafnhau'r baich".

Ansawdd gwael

Start Quote

Rhaid i chi gofio fod popeth yn dibynnu ar y grawn - bara, llaeth, cig eidion, bacwn. Bydd costau bwyd i'r cyhoedd yn gorfod cynyddu hefyd”

End Quote Ed Bailey NFU Cymru

Mae ffermwyr wedi gorfod ymdopi gyda'r mis Mehefin gwlypaf i'w gofnodi gyda dros ddwywaith cymaint o law na'r cyfartaledd.

Dywedodd llywydd NFU Cymru, Ed Bailey, fod yr haf wedi bod yn eithafol.

"Mae wedi cael effaith fawr ar gnydau," meddai.

"Yn y dechrau fe gafwyd tywydd cynnes a sych oedd ei angen i hau, ond nawr mae angen yr heulwen ac mae pobl yn dweud wrthyf fod cnydau fel barlys a grawn eraill yn ofnadwy.

"Mae'r nifer a'r ansawdd yn wael iawn."

Mae ffermwyr Cymru yn tyfu cnydau er mwyn bwydo eu hanifeiliaid dros fisoedd y gaeaf, ond gan fod y cynnyrch mor brin fe fydd rhaid iddyn nhw brynu bwyd, sy'n ychwanegu at eu costau.

Oedi

Ychwanegodd Mr Bailey: "Rwy'n credu mai gwaeth fydd pethau wrth i ni fynd am y gaeaf. Fe fydd hi'n flwyddyn anodd dros ben.

"Rhaid i chi gofio fod popeth yn dibynnu ar y grawn - bara, llaeth, cig eidion, bacwn. Bydd costau bwyd i'r cyhoedd yn gorfod cynyddu hefyd."

Roedd yr undeb hefyd yn poeni am oedi wrth fedi'r cnydau, gan ddweud bod esiamplau o ffermwyr yn dechrau medi cae o ŷd ond yn gorfod oedi yn y canol wrth i fwy o law ddisgyn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi codi gwaharddiadau sy'n rhwystro ffermwyr rhag defnyddio offer mecanyddol a cherbydau ar dir gwlyb er mwyn cynorthwyo gyda medi'r cnydau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Amaeth, Alun Davies AC: "Mae'r glaw trwm yn ddiweddar wedi cael effaith ddrwg ar fusnesau ac unigolion, ac rwy'n falch o fedru cymryd y cam hwn i gefnogi ffermwyr a chwarae rhan i ysgafnhau'r baich rywfaint."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.