Propelor yn anafu bachgen 13 oed

Cafodd bachgen 13 oed anaf difrifol i'w goes wedi iddo gael ei ddal ym mhropelor cwch ger Porthmadog.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau i'r bachgen gael ei gludo i'r lan yn dilyn y digwydd am tua 3:00pm ddydd Sadwrn.

Dywedodd swyddogion o Gaergybi bod o leiaf pedwar person arall yn y cwch a'u bod wedi rhoi cymorth cyntaf i'r llanc tan iddyn nhw gyrraedd y lan.

Roedd parafeddygon yno'n disgwyl amdanyn nhw, ac fe gafodd y bachgen ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Does dim manylion am ei gyflwr wedi cael eu cyhoeddi.

Daeth ambiwlans awyr i'r safle hefydbi gynorthwyo tîm gwylwyr y glannau.

Dywedodd llefarydd bod y bobl yn y cwch ond wedi mynd am dro, ac nad oedden nhw'n gwybod beth yn union ddigwyddodd.

Cafodd y gwasanaeth brys eu galw gan ddefnyddio ffôn symudol, ac fe wnaethon nhw anelu am Porthmadog gan mai dyna oedd yr harbwr agosaf, meddai.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Maes yr Eisteddfod GenedlaetholBargeinion y brifwyl yn Sir Gâr

    Yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnig tocynnau am £10 ar gyfer y brifwyl eleni i bobl sydd yn eu prynu mewn da bryd.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.