Allen yn symud i Lerpwl

Joe Allen

Straeon Perthnasol

Daeth cadarnhad bod chwaraewr canol cae Abertawe a Chymru, Joe Allen, yn symud i glwb Lerpwl.

Roedd y chwaraewr 22 oed o Gaerfyrddin yn gwylio Lerpwl wrth iddyn nhw herio Gomel yn rownd rhagbrofol Cynghrair Europa yn Anfield nos Iau wrth i sibrydion ledu ei fod ar fin arwyddo cytundeb gyda nhw.

Ddydd Gwener daeth cadarnhad ar wefan clwb Lerpwl y bydd yn symud i Anfield, ac yn ymuno gyda'i gyn-reolwr yn Abertawe, Brendan Rodgers.

Mae'r trosglwyddiad yn ddadleuol yng ngolwg rhai o gefnogwyr yr Elyrch, gan i Rodgers arwyddo cytundeb wrth adael Stadiwm Liberty na fyddai'n ceisio denu ser Abertawe i'w ddilyn i Lannau Mersi.

Ond eisoes mae Rodgers wedi arwyddo dau chwaraewr a dreuliodd gyfnodau ar fenthyg yn Abertawe yn ysod ei gyfnod yno, sef Gulfi Sigurdsson a Fabio Borini, a sgoriodd yn y gêm i Lerpwl nos Iau.

Mae Allen wedi cael prawf meddygol yn Lerpwl.

Bu gyda chlwb Abertawe er pan oedd yn naw oed, ac fe chwaraeodd ei gêm gyntaf yn 2007.

Enillodd ei gap cyntaf i Gymru yn erbyn Estonia yn 2009.

Yn nhymor cyntaf Abertawe yn yr Uwchgynghrair, fe dynodd Allen sylw nifer o glybiau mawr oherwydd ei berfformiadau cyson yng nghanol cae, ac fe gafodd ei ddewis gan Stuart Pearce i fod yn aelod o garfan Team GB yn y Gemau Olympaidd yn Llundain lle chwaraeodd ymhob gêm.

'Anhygoel'

Dywedodd Allen wedi cadarnhau'r trosglwyddiad:

"Mae'n deimlad anhygoel. Mae pawb yn gwybod hanes y clwb yma - mae'n glwb enfawr ac rwyf wrth fy modd yn ymuno â nhw.

"Mae angerdd y bobl yma tuag at bêl-droed yn rhywbeth yw wyf yn rhannu, ac rwyf am fod yn rhan o'r peth ac o'r blynyddoedd gwych i ddod i Lerpwl."

Dywedodd Brendan Rodgers: "Mae gallu Joe i reoli pêl yn elfen bwysig o'n hymgais i lwyddo ar y cae.

"Fe gafodd addysg wych yn Abertawe ac fe fydd yn dechrau pennod newydd yn ei yrfa gyffrous, ac rwy'n dymuno'n dda iddo."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.