Dai Greene drwodd o drwch blewyn
Daeth Greene yn bedwerdydd yn y rownd gynderfynol
Fe gafodd Dai Greene ddihangfa ffodus yn y Gemau Olympaidd yn Llundain.
Methodd capten Team GB â gorffen yn y ddau gyntaf yn y ras 400m dros y clwydi wedi iddo orffen yn bedwerydd gydag amser o 48.19 eiliad.
Dim ond y ddau gyntaf yn y dair ras oedd yn sicr o'u lle yn y rownd derfynol, gyda'r ddau gollwr cyflymaf hefyd yn cael lle, ond yn ffodus i Greene y ras gyntaf oedd y gyflymaf o'r tair.
Roedd Greene yn y ras gyntaf, ac roedd siom i Brydeiniwr arall yn yr ail ras wrth i Jack Green ddisgyn ar ôl taro yn erbyn un o'r clwydi.
Roedd y Cymro arall Rhys Williams yn y drydedd ras, ac fe orffennodd yn bedwerydd ac ni fydd yn cystadlu'r rownd derfynol nos Lun.
Wedi aros i weld yr amseroedd, fe sylweddolodd Greene fod ei amser yn ddigon da i gyrraedd y rownd derfynol, ond wrth siarad wedi'r ras, roedd y siom yn amlwg yn ei lais.
Roedd ei amser ymhell tu ôl i'w amser gorau y tymor hwn.
Dywedodd Greene: "Dwn i ddim beth aeth o'i le - fe fydd rhaid i fi wylio'r tap o'r ras eto.
"Roeddwn i'n teimlo i mi ddechrau'n dda, ond ar ôl croesi'r glwyd olaf doedd dim byd yna."
Bydd Greene yn un o'r wyth yn y rownd derfynol gyda Javier Coulson (Puerto Rico), Angelo Taylor (UDA), Michael Tinsley (UDA), Leford Green (Jamaica), Felix Sanchez (Cuba), Jehue Gordon (Trinidad a Tobago) a Kerron Clement (UDA).
Cyn y ras roedd Greene yn un o'r ffefrynnau gan ei fod yn bencampwr byd.
Ond fe redodd chwech o bobl yn gyflymach na 48 eiliad yn y rownd gynderfynol. Greene oedd y seithfed cyflymaf i gyrraedd y ffeinal, ac fe fydd angen gwellhad sylweddol os yw'r Cymro yn mynd i ennill medal nos Lun.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~45~RS~)

Ynys Môn: Comisiynwyr yn gadael
Cyhoeddi enw'r milwr gafodd ei ladd
Sioe myfyrwyr yn delio â dementia
Llwyfan i dalent y sir
Guggenheim i Gymru?
Bradley'n arwain y daith