Aur i Geraint Thomas
Geraint Thomas yw'r Cymro cyntaf i ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd yn Llundain.
Roedd Thomas yn aelod o bedwarawd Prydain yn y ras ymlid, neu ras gwrso, a gurodd Awstralia yn y rownd derfynol nos Wener.
Enillodd Thomas fedal aur yn yr un ras yn Beijing yn 2008.
Wrth gipio'r fedal aur, fe dorrodd tîm Prydain eu record byd eu hunain a osodwyd yn y rownd ragbrofol.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~17~RS~)
