Kirsty Jones: Heddlu'n mynd i Wlad Thai
Roedd Kirsty Jones yn 23 oed pan gafodd ei llofruddio
Mae swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys yn teithio i Wlad Thai i drafod y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran yr ymchwiliad i lofruddiaeth myfyrwraig o Aberhonddu deuddeng mlynedd yn ôl.
Cafodd Kirsty Jones, oedd yn 23 oed o Dredomen ger Aberhonddu, ei threisio a'i thagu yn y gwesty yn y wlad ar Awst 9 2000.
Bydd Sue Jones, mam Kirsty, yn mynd gyda'r tîm ac fe fydd hi'n gwneud apêl bersonol am wybodaeth yn Chiang Mai ddeuddeg mlynedd union ar ôl marwolaeth ei merch.
Y tro diwethaf i swyddogion ymweld â Chiang Mai oedd mis Chwefror eleni, lle yn dilyn cyfres o gyfarfodydd gyda Chyrnol yr Heddlu, Songsak Raksaksakul, Cyfarwyddwr Trosedd Trawswladol yr Adran Ymchwiliadau Arbennig, cawsant eu sicrhau fod Awdurdodau Gwlad Thai yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth Kirsty, gyda chanolbwynt yr ymholiad yn Chiang Mai.
“Start Quote
End Quote Ditectif Uwch-arolygydd Andy John Heddlu Dyfed PowysA hithau bron iawn yn ddeuddeg mlynedd union ers marwolaeth Kirsty, mae'n amserol ein bod yn gwneud apêl am wybodaeth a allai'n cynorthwyo i symud yr ymchwiliad ymlaen ymhellach”
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Andy John: "Ers ein hymweliad ym mis Chwefror, gyda chymorth Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad a Llysgenhadaeth Prydain, rydym wedi cadw cysylltiad rheolaidd gyda thîm heddlu'r Adran Ymchwiliadau Arbennig sy'n gweithio ar yr achos yng Ngwlad Thai.
"Rydym wedi'n calonogi gan y gwaith y maent wedi ymgymryd ag ef yn y chwe mis diwethaf.
"A hithau bron iawn yn ddeuddeg mlynedd union ers marwolaeth Kirsty, mae'n amserol ein bod yn gwneud apêl am wybodaeth a allai'n cynorthwyo i symud yr ymchwiliad ymlaen ymhellach.
"Mae gennym broffil DNA a adferwyd o'r lleoliad, sy'n ganolog i'w llinell ymholi gyfredol. Golyga hyn y bydd modd i'r awdurdodau ddileu pobl yn hawdd o'r ymchwiliad.
"Bydd Sue yn teithio gyda ni ac yn gwneud apêl bersonol am wybodaeth mewn Cynhadledd y Wasg gyda'r Adran Ymchwiliadau Arbennig yn Chiang Mai ar ddydd Iau Awst 9."
Er bod nifer o bobl wedi cael eu harestio, does neb wedi ei gyhuddo.
'Tystiolaeth fforensig'Cafwyd hyd i'w chorff mewn ystafell yng Ngwesty Aree yn Chiang Mai yng ngogledd y wlad, ryw 435 milltir o'r brifddinas Bangkok.
Dri mis yn gynharach roedd wedi cychwyn ar daith dwy flynedd o amgylch y byd.
Mae ei mam, Sue Jones, wedi addo na fydd yn rhoi'r gorau i'w hymgyrch nes bod llofrudd ei merch yn cael ei ddal.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jackie Roberts, "Er bod deuddeg mlynedd yn teimlo fel amser maith yn ôl, mae'r golled a deimlir gan y teulu am eu merch yn parhau.
"Gwyddwn fod tystiolaeth fforensig ar gael a allai'n harwain at ganlyniad llwyddiannus a byddwn yn parhau i wneud pob dim o few nein gallu i gynorthwyo Awdurdodau Gwlad Thai i ddwyn y troseddwr i gyfiawnder.
"Rydym yma i ddiogelu ein cymunedau yn Nyfed-Powys. Mae Kirsty'n haeddu cyfiawnder ac mae ei theulu'n parhau'n rhan o'n cymuned.
"Rydym yn parhau'n gadarn yn ein hymroddiad tuag at sicrhau canlyniad cadarnhaol i Kirsty a'i theulu."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~15~RS~)

Llywodraeth o dan y lach
Llys: 'Esgyrn penglog dynol'
Bradley'n arwain y daith i Japan
Gwrthod cais
'Mi glywish i'r awyren yn dod lawr'
Achub Y Cyfnod