Eglwys ym Mro Morgannwg yn gartref i ddiffibrilydd
Gerard Rothwell o Wasanaeth Ambiwlans Cymru a'r Parchedig Anthony Beer gyda'r diffribilydd
Eglwys ym Mro Morgannwg yw'r un gyntaf yng Nghymru i gael diffibrilydd all achub bywydau pobl sydd yn cael trawiad ar y galon.
Mae'r diffibrilydd ar wal yng nghyntedd Eglwys Sant Iago yn Y Wig ac yn y seremoni lansio ddydd mae Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, yn bendithio'r peiriant.
Bydd y diffibrilydd yn yr eglwys am ei bod yn anodd i ambiwlansys gyrraedd y pentref anghysbell yn gyflym adeg argyfwng.
Bydd trigolion y pentref yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio'r peiriant.
'Anrhydedd fawr'Dywedodd y Parchedig Anthony Beer ei bod yn "anrhydedd fawr" fod cyfarpar allai helpu'r gymuned yn cael ei osod yn yr eglwys.
Mae'r cam yn rhan o brosiect Diffibrilyddion ar gyfer Mynediad i'r Cyhoedd.
Bydd y diffibrilydd yn cael ei osod ar wal yng nghyntedd Eglwys Sant Iago yn Y Wig
Sefydliad Prydeinig y Galon sy'n ariannu'r cynllun a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru sy'n darparu hyfforddiant.
Mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi hyfforddi dros 4000 o wirfoddolwyr ar gyfer safleoedd y prosiect mewn mannau fel gorsafoedd rheilffordd a chanolfannau hamdden a hyd yn oed yn amgueddfa'r Pwll Mawr ac ar ben yr Wyddfa.
'Derbyn cysur'"Mae hwn yn gam pwysig ac arloesol ar ran yr Eglwys yng Nghymru ac rwy'n falch iawn i fynychu'r lansiad," meddai Dr Morgan.
"Rwyf wedi bendithio rhai lleoedd ac eitemau anghyffredin dros y blynyddoedd ond dyma'r tro cyntaf imi fendithio diffibrilydd na fydd byth yn gorfod cael ei ddefnyddio, gobeithio.
"Fodd bynnag gall plwyfolion a chymuned Y Wig dderbyn cysur gan y ffaith bod y diffibrilydd ar gael".
Dywedodd Gerard Rothwell, rheolwr y prosiect yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Y bwriad yw arbed bywydau ac rydym yn falch iawn o allu gweithio gyda'r Eglwys a BHF i wneud i hyn ddigwydd.
"Edrychwn ymlaen at ymestyn y cynllun i sawl eglwys anghysbell a chymunedau eraill ar draws Cymru."
Dywedodd Elaine Tanner, Rheolwr Datblygu Sefydliad y Galon yng Nghymru: "Gall diffibrilyddion wedi eu lleoli'n strategol ledled Cymru arbed bywydau.
"Gellid arbed llawer mwy o fywydau yng Nghymru os oes mwy o ddiffibrilyddion yn y gymuned."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~13~RS~)

'Sylw i Loegr' yn niweidio democratiaeth
Cymraes yw gobaith mawr Prydain
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?