Chris Bartley o Wrecsam yn ennill medal arian
Chris Bartley (ar y dde) gyda gweddill y tîm a'u medalau arian
Chris Bartley yw'r Cymro cynta' i ennill medal yn y Gemau Olympaidd yn Llundain.
Roedd yn aelod o dîm pedwarawd ysgafn Prydain ddaeth yn ail wrth gystadlu yn Eton Dorney ddydd Iau.
Roedd hi'n ras agos gyda De Affrica yn cipio'r fedal aur o drwch blewyn.
Aelodau tîm Prydain oedd Bartley, Richard a Peter Chambers a Rob Williams.
Tîm Denmarc, y cyn bencampwyr Olympaidd, oedd ar y blaen y rhan fwya' o'r ras ond yn y diwedd fe gawson nhw fedal efydd ac roedd pencampwyr y byd, Awstralia, yn bedwerydd.
'Yn anodd'De Affrica oedd yn fuddugol mewn amser o 6:02:84, Prydain 6:03:0 a Denmarc 6:03:16.
Ar ôl y ras dywedodd Richard Chambers: "Roedd yn anodd, anodd iawn.
"Roedden ni'n ymladd ac ymladd drwy'r holl ras er mwyn cael bod mewn safle i geisio ennill.
"Yn sicr, roedd yn anodd cadw i fyny gyda'r criwiau eraill yn ystod chwarter cynta'r ras ond fe wnaethon ni'n galed iawn."
Dechreuodd Bartley o Wrecsam rwyfo yn 14 oed.
"Tasech chi wedi gofyn i fi yn ystod fy ngyrfa rhwyfo, fyddwn i byth wedi meddwl y byddwn yn cael fy newis i gystadlu yn y Gemau Olympaidd," meddai cyn y ras.
CHRIS BARTLEY
- Geni: Chwefror 2 1984
- Taldra: 1.78m
- Pwysau: 78cg
- Efydd ym Mhencampwriaeth y Byd 2007, pedwarawd ysgafn scull
- Aur ym Mhencampwriaeth Rhwyfo'r Byd 2010, pedwarawd ysgafn
- Aur Cwpan y Byd 2012 pedwarawd ysgafn
"Ond mae'n rhaid fy mod wedi bod yn gwneud rhywbeth yn iawn yn ystod y pedair blynedd diwetha'."
'Perfformiad gwych'
Cafodd ei addysg dros y ffin yn Ysgol King's yng Nghaer.
Ef oedd pencampwr dan-23 oed, parau ysgafn yn 2006, ac yna enillodd fedal efydd ym Mhencampwriaethau'r Byd yn y pedwarawd ysgafn scull yn 2007.
Enillodd yr un tîm o bedwar Bencampwriaethau Rhwyfo'r Byd yn 2010.
Llongyfarchodd Prif Weinidog Cymru Chris Bartley ar ei "berfformiad gwych" arweiniodd at fedal gyntaf Cymru yng Ngemau Olympaidd Llundain.
"Gobeithio y cawn ni fwy o lwyddiant a mwy o fedalau," meddai.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~32~RS~)

'Sylw i Loegr' yn niweidio democratiaeth
Cymraes yw gobaith mawr Prydain
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?