Ffordd yr A55 wedi ail agor ar ôl i lori droi drosodd ger Bangor

Adroddiad Sion Tecwyn

Straeon Perthnasol

Mae rhan o'r A55 ger Bangor wedi ail agor nos Fercher ar ôl bod ar gau am dros 12 awr.

Cafodd y lôn ddwyreiniol ei hailagor am 8.30pm nos Fercher wedi i'r lori gael ei symud.

Cafodd y lôn orllewinol ei hailagor cyn 1pm ddydd Mercher.

Mae'r gwasanaeth tân wedi dweud bod un person wedi ei anafu.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 7:50am wedi i'r lori droi ar ei hochr ar y ffordd tua'r dwyrain rhwng Cyffordd 13 (Abergwyngregyn) a Chyffordd 14, gan rwystro'r traffig ar y ddwy lôn.

Cafodd y lôn tua'r gorllewin ei chau am gyfnod fel y gallai cerbydau'r gwasanaethau brys gyrraedd y safle ac mae llawer o ddisel wedi gollwng ar hyd y ffordd, ond mae'r lon bellach wedi ailagor i gyfeiriad Bangor.

map

Dywedodd Kenny Jones o Langefni: "Mi adewais i Langefni am 7.30 y bore 'ma gyda'r bwriad o fynd i Blackpool.

"Oherwydd y trafferthion mi wnes i aros am ddwy awr a hanner ... mi oedd pedwar o blant yn y car.

"Mi droais i rownd cyn mynd trwy Fetws-y-coed ond roedd y traffig yn ofnadwy.

"Yn y diwedd mi es i adra ... mi oeddwn i wedi talu mwy na £100 er mwyn mynd i'r traeth yn Blackpool."

Dywedodd Judy Barry o Ddyffryn Conwy: "Mi adewais i Gonwy am 10am oherwydd cyfarfod yng Nghaergybi.

"Yna mi es i ar yr A55 i gyfeiriad y gorllewin yng Nghonwy.

"Am 11am doedd y car ddim yn symud ac mi oeddwn i mewn rhes hir ym Mhenmaenmawr ond wedyn mi oedd goleuada traffig yn golygu mod i'n gallu cyrraedd cylchfan Llanfairfechan lle ces i gyfarwyddyd i fynd yn ôl ar yr A55, hynny yw o le yr oeddwn i wedi dod.

"A deud y gwir, mi wnes i wastraffu dwy awr ... mi fyddai arwydd neu gyfarwyddyd heddlu ar ffordd ymuno Gorllewn Conwy wedi fy stopio rhag ymuno â thagfeydd ..."

Tagfeydd

Roedd cerbydau oedd yn teithio i gyfeiriad y dwyrain yn cael eu dargyfeirio o gyffordd 11 o'r A55 (Llandygai/Bethesda) ar hyd yr A5 i Fetws-y-coed cyn ail-ymuno gyda'r A55 yng Nglan Conwy ar Gyffordd 19.

Penderfynodd yr Asiantaeth Priffyrdd gau twnnel Conwy er mwyn sicrhau na fyddai cerbydau'n mynd yn sownd.

Gan fod y traffig yn cael ei ddargyfeirio drwy Fetws-y-Coed a Llanrwst roedd tagfeydd difrifol yng nghanol tref Llanrwst ac roedd oedi hir wrth fynd i mewn i Fethesda wrth i draffig tua'r dwyrain gael ei ddargyfeirio o gyffordd 11 o'r A55 i lawr Dyffryn Conwy.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.