Y Twrnai Cyffredinol yn atal deddfwriaeth newydd dros dro

Mae'r Twrnai Cyffredinol y DU wedi ymyrryd i atal y ddeddfwriaeth cynta' i gael ei gymeradwyo dan bwerau newydd y Cynulliad Cenedlaethol.

Dywedodd Dominic Grieve ei fod yn atal y ddeddfwriaeth dros dro, ac yn cyfeirio'r mater i'r Goruchaf Lys.

Mae o am i'r Llys benderfynu ar rannau o Ddeddf Llywodraeth Leol (Is ddeddfau).

Cafodd y ddeddf ei chymeradwyo gan aelodau'r Cynulliad bythefnos yn ôl.

Roedd disgwyl i'r ddeddf wedyn dderbyn Sêl Bendith Brenhinol.

Ond mae Deddf Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfnod o bedair wythnos i Lywodraeth San Steffan ymyrryd i rwystro Mesur sydd wedi ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi beirniadu Llywodraeth y DU am atal y ddeddfwriaeth cynta'.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, y mater fel "chwerthinllyd" ac "anesboniadwy".

Mae Cheryl Gillan wedi ymateb drwy ddweud mai "Ysgrifennydd Cymru a'r Twrnai Cyffredinol yw ceidwaid trefn datganoli i Gymru".

Angen caniatâd

"Mae ganddyn nhw ddyletswydd i sicrhau bod Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cael ei gydymffurfio."

"Ar hyn o bryd mae gan weinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol bwerau cyfamserol i gadarnhau creu is-ddeddfau llywodraeth leol yng Nghymru.

"Mae Deddf Llywodraeth Cymru yn glir na all y Cynulliad ddeddfu i addasu swyddogaeth gweinidogion y Goron heb ganiatâd, oni bai fod yr addasu yn ôl-ddilynol neu yn achlysurol i ddarpariaeth eraill y mesur."

Dywedodd Mr Grieve fod yna bryder fod y Ddeddf yn newid pwerau Gweinidogion San Steffan, ac nad oedd gan y Cynulliad yr hawl i wneud hynny.

Nod y ddeddf, gafodd ei chymeradwyo can y Cynulliad Cenedlaethol, yw symleiddio'r broses sy'n caniatáu i gynghorau lleol greu is-ddeddfau.

Mae'r ddeddf newydd yn cael gwared ar yr angen i Weinidogion Cymru orfod cymeradwyo is-ddeddfau gan gynghorau.

Dywed ffynonellau Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu bod wedi awgrymu newidiadau i'r Ddeddf tra'i bod yn cael ei llunio, ac y byddai hyn wedi osgoi cyfeirio'r mater i'r Goruchaf Lys.

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.