'Gwybodaeth ar flaen eich bysedd'

App yr Eisteddfod Tudalen app yr Eisteddfod

Fe fydd gwybodaeth ymwelwyr ag Eisteddfod Bro Morgannwg ar gael ar flaenau eu bysedd.

Mae'r Eisteddfod wedi lansio app am y trydydd tro ond eleni bydd defnyddwyr yn gallu cadw mewn cysylltiad â defnyddwyr drwy gydol y flwyddyn.

Llywodraeth Cymru ariannodd ran gychwynnol y prosiect.

"Mae ein strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg, Iaith fyw: iaith byw, yn pwysleisio pa mor bwysig yw technoleg a'r cyfryngau digidol i ddyfodol yr iaith," meddai Leightron Andrews, y Gweinidog â chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg.

"Fy nod yw sicrhau bod pawb yn cael elwa ar dechnoleg newydd a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg os ydyn nhw'n dymuno hynny.

"Rwyf felly'n croesawu'r ffaith y bydd ymwelwyr i'r Eisteddfod eleni yn gallu defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf fydd yn ategu eu mwynhad o'r digwyddiad."

'Rhan bwysig'

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, eu bod yn ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod modd datblygu app ar gyfer yr Eisteddfod.

"Mae defnyddio technoleg yn y Gymraeg yn rhan bwysig o weledigaeth y Llywodraeth yng nghyd-destun y Gymraeg ac rydym yn gwerthfawrogi'u cefnogaeth eleni er mwyn sicrhau bod yr Eisteddfod yn gallu cynnig yr app am y trydydd tro.

"Mae'r app yn wahanol i'r adnodd a gyhoeddwyd y llynedd ac yn 2010, a'r gobaith yw y bydd ein hymwelwyr yn mynd ati i'w lawrlwytho - yn rhad ac am ddim - cyn dod i'r Eisteddfod yn Llandŵ.

"Yn ddi-os, bydd yn adnodd defnyddiol i unrhyw un sy'n awyddus i gynllunio'u hymweliad."

Gellir defnyddio'r app ar gfyer yr wythnos neu fesul diwrnod.

Mae 'na fanylion hefyd am sut i gyrraedd y Maes ac mae modd prynu tocynnau ar gyfer gweithgareddau hefyd.

Mwy Am y Stori Hon

BRO MORGANNWG 2012

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.