Ail streic 24 awr gan weithwyr Remploy
Bu gweithwyr Remploy yn protestio tu allan i San Steffan ar Ebrill 20
Bydd gweithwyr ffatrïoedd Remploy yn cynnal eu hail streic 24 awr ymhob un o'r 54 o safleoedd trwy Brydain ddydd Iau.
Cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan yn gynharach eleni y bydd 27 o'r ffatrïoedd yn cau, gan gynnwys pump yng Nghymru.
Fe fydd naw arall - gyda dau yng Nghymru - yn destun ymgynghoriad pellach am eu dyfodol.
Disgwylir i 183 o weithwyr golli eu gwaith.
Dywedodd y llywodraeth y dylai'r ffatrïoedd gau er mwyn buddsoddi arian sy'n cael ei arbed mewn cynlluniau fydd yn helpu pobl anabl gael gwaith.
Dim cynilionFFATRÏOEDD REMPLOY CYMRU
- Aberdâr - CAU
- Abertyleri - CAU
- Merthyr Tudful - CAU
- Abertawe - CAU
- Wrecsam - CAU
- Pen-y-bont ar Ogwr - Ymgynghoriad pellach
- Croespenmaen - Ymgynghoriad pellach
- Porth - Parhau ar agor
- Castell-nedd - Parhau ar agor
Cafodd ffatrïoedd Remploy eu creu er mwyn darparu gwaith o bobl gydag anableddau, ac fe fydd aelodau o undebau Unite a'r GMB ar streic ddydd Iau.
Cafodd y streic gyntaf ei chynnal ar Orffennaf 19.
Dywedodd Ysgrifennydd Unite Cymru, Andy Richards: "Bu yna gefnogaeth gadarn gan weithwyr a'r cyhoedd i'r streic yr wythnos diwethaf ac mae'n debygol y bydd y gefnogaeth yn parhau ar gyfer yr ail streic.
"Mae ein haelodau wedi eu trin yn ddirmygus gan Llywodraeth y DU ac fe allan nhw ddysgu gwers neu ddau o Lywodraeth Cymru sydd wedi dangos eu cefnogaeth i weithwyr Remploy yng Nghymru."
Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, gynllun gwerth £2.4 miliwn ar gyfer cyflogwyr yng Nghymru fydd yn cyflogi cyn-weithwyr Remploy am o leiaf bedair blynedd.
Bydd y Grant Cynhaliaeth Cyflogwyr yn cyfrannu at gyflogau a "phob costau rhesymol eraill" sy'n gysylltiedig â chyflogi gweithiwr anabl.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~07~RS~)

Llywodraeth o dan y lach
Llys: 'Esgyrn penglog dynol'
Bradley'n arwain y daith i Japan
Gwrthod cais
'Mi glywish i'r awyren yn dod lawr'
Achub Y Cyfnod