Streic 24 awr gan weithwyr Remploy

Gweithwyr Remploy yn protestio tu allan i San Steffan ar Ebrill 20 Bu gweithwyr Remploy yn protestio tu allan i San Steffan ar Ebrill 20

Straeon Perthnasol

Mae gweithwyr ffatrïoedd Remploy ar streic 24 awr ers 6am ddydd Iau ymhob un o'r 54 o ffatrïoedd trwy Brydain.

Cyhoeddodd llywodraeth San Steffan yn gynharach y bydd 27 o'r ffatrïoedd yn cau, gan gynnwys pump yng Nghymru.

Fe fydd naw arall - gyda dau yng Nghymru - yn destun ymgynghoriad pellach am eu dyfodol.

Disgwylir i 183 o weithwyr golli eu gwaith.

Dywedodd y llywodraeth y dylai'r ffatrïoedd gau er mwyn buddsoddi arian sy'n cael ei arbed mewn cynlluniau fydd yn helpu pobl anabl gael gwaith.

Dim cynilion

Cafodd ffatrïoedd Remploy eu creu er mwyn darparu gwaith o bobl gydag anableddau, ac fe fydd aelodau o undebau Unite a'r GMB ar streic ddydd Iau.

Dywedodd ysgrifennydd cenedlaethol undeb y GMB, Phil Davies: "Nid yw'r bobl anabl yn Remploy wedi gwneud y penderfyniad i streicio yn ddi-hid.

"Dyma weithwyr sydd heb lawer o gynilion, felly mae aberthu diwrnod o gyflog yn dangos yr angerdd y maen nhw'n ei deimlo am achub eu swyddi.

FFATRÏOEDD REMPLOY CYMRU

  • Aberdâr - CAU
  • Abertyleri - CAU
  • Merthyr Tudful - CAU
  • Abertawe - CAU
  • Wrecsam - CAU
  • Pen-y-bont ar Ogwr - Ymgynghoriad pellach
  • Croespenmaen - Ymgynghoriad pellach
  • Porth - Parhau ar agor
  • Castell-nedd - Parhau ar agor

"Mae'r llywodraeth yn ceisio cyflwyno cynlluniau gwahanol ar gyfer gwaith cynaliadwy pan mae pawb yn gwybod ein bod mewn dirwasgiad ac nad oes swyddi cynaliadwy ar gael.

"Mae'r penderfyniad i gau ffatrïoedd Remploy yn golygu y bydd miloedd o bobl a'u teuluoedd yn cael eu gadael mewn tlodi, ac mae eu hiechyd yn siŵr o ddiodde'.

"Mae hyn yn warth ac fe ddylai'r llywodraeth fod â chywilydd."

Cefnogaeth

Ychwanegodd Kevin Hepworth, swyddog gydag undeb Unite: "Mae'r gefnogaeth a gawsom yn syfrdanol - nid dim ond gan y mudiad undebau llafur ond gan y cyhoedd yn gyffredinol.

"Rydym wedi derbyn cannoedd o e-byst a galwadau ffôn gan bobl yn condemnio'r llywodraeth am ddelio gyda diswyddo gweithwyr anabl mewn modd mor greulon."

Yn gynharach yr wythnos hon fe gyhoeddodd Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, gynllun gwerth £2.4 miliwn ar gyfer cyflogwyr yng Nghymru fydd yn cyflogi cyn-weithwyr Remploy am o leiaf pedair blynedd.

Bydd y Grant Cynhaliaeth Cyflogwyr yn cyfrannu at gyflogau a "phob costau rhesymol eraill" sy'n gysylltiedig â chyflogi gweithiwr anabl.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Maes yr Eisteddfod GenedlaetholBargeinion y brifwyl yn Sir Gâr

    Yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnig tocynnau am £10 ar gyfer y brifwyl eleni i bobl sydd yn eu prynu mewn da bryd.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.