Mwy na 500 yn angladd peilot yn Eglwys Gadeiriol Bangor
Roedd teulu'r Awyr-lefftenant Hywel Poole yn byw ym Mhorthaethwy
Mae angladd peilot o Gymru fu farw wedi damwain yn Yr Alban yn gynharach yn y mis wedi ei gynnal.
Roedd mwy na 500 yng ngwasanaeth milwrol llawn yr Awyr-lefftenant Hywel Tomos Poole o Borthaethwy yn Eglwys Gadeiriol Bangor.
Roedd degau o'i gyngydweithwyr o'r Alban a'r Fali yno i gofio amdano.
Fe gafodd Mr Poole, 28 oed, ei ladd pan darrodd dwy awyren tornado ei gilydd.
Roedd y ddwy awyren yn hedfan o Ganolfan Yr Awyrlu yn Lossiemouth.
Bu farw yn Ysbyty Raigmore Inverness.
Collodd dau arall eu bywydau yn y ddamwain i'r de o Wick ar arfordir Caithness yn ystod taith ymarfer.
GweddillionMae'r gwaith yn parhau i ganfod gweddillion y ddwy awyren o wely'r môr.
Cafodd gweddillion yr Awyr-lefftenant Adam Sanders, 27 oed o Sir Gaerhirfryn, eu canfod ger safle'r ddamwain.
Mae'r awdurdodau yn y broses o adnabod gweddillion Arweinydd y Sgwadron Samuel Bailey, 36 oed o Nottingham.
Mae pedwerydd person mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.
Ymunodd Mr Poole â'r Awyrlu yn 2006.
Roedd yng Nghanolfan yr Awyrlu yn Y Fali cyn cael ei ddewis ar gyfer hyfforddiant Tornado a symud i Lossiemouth ym mis Tachwedd 2011.
'Talent'"Wrth ddangos talent naturiol wrth hedfan y Tornado, fe sefydlodd ei hun yn gyflym fel peilot galluog a hyderus," meddai Pennaeth Sgwadron XV (Wrth Gefn), Jonathan Moreton.
"Wrth gyfuno hynny gyda'i hiwmor a chymeriad hoffus roedd yn aelod poblogaidd iawn o'r sgwadron."
Mae ymchwiliad trylwyr i achos y ddamwain wedi dechrau.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~55~RS~)

Pryder am gost gwasanaethau cymdeithasol
Damwain awyren: Un wedi marw
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?
Tipyn o gamp