Diffyg signal ffôn yn cael effaith ar fywoliaeth trigolion Llanpumpsaint

Ffôn symudol heb signal Dyw trigolion Llanpumsaint ddim wedi cael signal ffôn dibynadwy ers Mehefin 8

Straeon Perthnasol

Mae pentrefwyr yn Sir Gaerfyrddin yn dweud eu bod nhw heb wasanaeth ffôn symudol ers wythnosau a'i fod yn effeithio ar fywoliaeth rhai ohonyn nhw.

Dim ond un rhwydwaith dibynadwy sydd ar gael yn Llanpumsaint, sef Orange.

Ond does yna ddim signal wedi bod ers Mehefin 8 yn sgil problemau technegol.

Honnir mai problem gyda mast yn Alltwalis sydd ar fai.

Dywedodd pobl leol eu bod wedi cwyno wrth y cwmni ond nad ydyn nhw wedi cael gwybod pa bryd bydd y signal yn cael ei adfer.

Mae rhai wedi dweud bod y sefyllfa'n effeithio ar eu bywoliaeth.

Mae Huw Davies yn beirianydd sain, sy'n dibynnu ar ei ffôn symudol er mwyn trefnu gwaith gyda chwmnïau teledu.

Costau

Dywedodd wrth BBC Cymru ei fod wedi colli tridiau o waith yn barod am nad oedd wedi derbyn negeseuon ffôn.

Start Quote

Mae'n rhaid mynd gartre' nawr i gael signal, neu fynd lan i dop y mynydd”

End Quote Mathew Jones Contractiwr Amaethyddol

"Gyda 'ngwaith, mae cwmnïau'n fy ffonio i ac maen nhw'n disgwyl cael gwybod ar unwaith os ydw i ar gael i weithio iddyn nhw.

"Roedd 'na enghraifft ddoe, cwmni wedi fy ffonio am 12.15pm ond ches i ddim mo'r neges tan 3.45pm.

"Erbyn i mi eu ffonio, wrth gwrs, roedden nhw wedi ffeindio rhywun arall."

"Dy'n nhw (Orange) ddim yn fodlon dweud yn gywir pryd fydd y mast 'ma yn ôl yn gweithio - galle fe fod yn wythnosau eto."

Colli negeseuon

Dywedodd Mathew Jones, contractiwr amaethyddol lleol, ei fod yn dibynnu bron yn llwyr ar ei ffôn am waith.

Mae ei gostau wedi cynyddu, meddai, am ei fod yn gorfod ffonio pobl yn ôl ar ôl iddyn nhw adael negeseuon ar ei ffôn yn ystod y dydd.

"Mae'n rhaid mynd gartre' nawr i gael signal neu fynd lan i dop y mynydd.

"Wedyn ma' pobl yn gadael negeseuon ac ma' ishe ffonio nhw'n ôl.

"Ma' fy mil i'n ddwbl nawr o leia'."

Ymddiheuro

Mewn datganiad fe ddywedodd Orange fod y cwmni yn ymwybodol fod nifer o gwsmeriaid wedi colli ei gwasanaeth yn ardal Llanpumsaint.

Maen nhw'n gweithio i ddatrys y broblem cyn gynted ag y bo modd.

Maen nhw'n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.