Poblogaeth Cymru bellach dros dair miliwn yn ôl y cyfrifiad

Datgelu'r nifer sy'n byw yng Nghymru Datgelu'r nifer sy'n byw yng Nghymru

Straeon Perthnasol

Mae poblogaeth Cymru wedi cynyddu o 5% (153,000) dros y 10 mlynedd diwethaf yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Y boblogaeth ar ddiwrnod y cyfrifiad, sef Mawrth 27, 2011, oedd 3.06 miliwn. 2.91 miliwn oedd y ffigwr yn 2001.

Dyma oedd y cynnydd mwyaf mewn unrhyw gyfnod o 10 mlynedd ers 1921, a mudo yw'r rheswm am 90% o'r cynnydd.

O fewn Cymru, Caerdydd sydd â'r boblogaeth uchaf a'r cynnydd mwyaf mewn poblogaeth.

Bellach mae 346,000 o bobl yn byw yn y brifddinas, sydd 36,000 yn uwch nag yn 2001.

Yno hefyd roedd y dwysedd poblogaeth uchaf, gyda 2,500 o bobl am bob cilomedr sgwâr.

O'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru, Blaenau Gwent oedd yr unig un i weld y boblogaeth yn gostwng, a hynny o 0.3%.

Conwy sydd â'r gyfran uchaf o'i phoblogaeth yn hŷn na 65 oed - 25% - ac yng Nghaerdydd oedd yr isaf.

Ac mae gan Gymru gyfran uwch o bobl dros 65 oed na bron pob ardal yn Lloegr.

Plant bach

Cafodd y ffigyrau eu cyhoeddi fel rhan o'r dadansoddiad cyntaf o ganlyniadau Cyfrifiad 2011.

Mae'r boblogaeth wedi tyfu yng Nghymru ac yn Lloegr, ond mae'r cynnydd yn uwch yn Lloegr.

Start Quote

Hoffwn ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r gwaith, gan gynnwys y 35,000 o bobl fu'n gweithio ar gasglu'r wybodaeth ac a gynorthwyodd i wneud y cyfrifiad yn llwyddiant”

End Quote Glen Watson Cyfarwyddwr y Cyfrifiad

Un grŵp oedran a welodd gynnydd sylweddol oedd plant o dan 5 oed.

Yng Nghymru roedd 11,000 yn fwy o blant o fewn y grŵp yma nag yn 2001 - cynnydd o 7%.

O fewn Cymru, Wrecsam sydd â'r gyfran uchaf o fewn y grŵp oedran yma - 7% - a Cheredigion yr isaf.

Dywedodd cyfarwyddwr y Cyfrifiad, Glen Watson: "Fe weithiodd y cyfan yn dda. Rydym wedi cwrdd â'n targedau o safbwynt ymateb a safon.

"Fe gawsom gefnogaeth wych gan y cyhoedd a gan grwpiau gwirfoddol, grwpiau cymunedol ac awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr.

"Hoffwn ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r gwaith, gan gynnwys y 35,000 o bobl fu'n gweithio ar gasglu'r wybodaeth ac a gynorthwyodd i wneud y cyfrifiad yn llwyddiant."

Cyfrifiad 2011 - gafodd ei gynnal ddydd Sul, Mawrth 27, 2011 - oedd y tro cyntaf i bobl fedru cofnodi eu bod yn Gymry, hyd yn oed os oedden nhw'n byw mewn rhannau eraill o Brydain.

Yn 2000 fe wnaeth Aelodau'r Cynulliad bleidleisio'n unfrydol dros gynnwys y blwch "Cymry" ar y ffurflen yn 2001 ond roedd hi'n rhy hwyr i'w newid.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol mai'r ffaith nad oedd y blwch wedi cael ei gynnwys ar y ffurflen yn 2001 arweiniodd at y nifer mwyaf o gwynion.

POBLOGAETH CYMRU - CYFRIFIAD 2011

Awdurdod lleol Poblogaeth 2011 Poblogaeth 2001 % o newid

Ffynhonell: Cyfrifiad 2011 - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Caerdydd

346,100

310,100

+ 11.6

Abertawe

239,000

223,500

+ 6.9

Rhondda Cynon Taf

234,400

231,900

+ 1.1

Sir Gaerfyrddin

183,800

173,700

+ 5.8

Caerffili

178,800

169,500

+ 5.5

Sir y Fflint

152,500

148,600

+ 2.6

Casnewydd

145,700

137,600

+ 5.9

Castell-nedd Port Talbot

139,800

134,400

+ 4.0

Pen-y-bont ar Ogwr

139,200

128,700

+ 8.2

Wrecsam

134,800

128,500

+ 4.9

Powys

133,000

126,400

+ 5.2

Bro Morgannwg

126,300

119,300

+ 5.9

Sir Benfro

122,400

113,100

+ 8.2

Gwynedd

121,900

116,800

+ 4.4

Conwy

115,200

109,700

+ 5.0

Sir Ddinbych

93,700

93,100

+ 0.6

Sir Fynwy

91,300

85,000

+ 7.4

Torfaen

91,100

90,900

+ 0.2

Ceredigion

75,900

75,400

+ 0.7

Blaenau Gwent

69,800

70,000

- 0.3

Ynys Môn

69,700

67,800

+ 2.8

Merthyr Tudful

58,800

56,200

+ 4.6

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.