Dod â gwasanaeth Clirlun S4C i ben

S4C

Straeon Perthnasol

Wrth geisio arbed arian, bydd S4C yn dod â gwasanaeth Clirlun i ben ddiwedd eleni - sef y llun manylder uwch ar gael i wylwyr Freesat.

Bydd hynny'n arbed £1.5 miliwn y flwyddyn.

Daw hyn wrth i'r sianel gyhoeddi ei bod wedi gwneud colled o dros £6m yn ystod 2011.

Mae adroddiad blynyddol y sianel yn dangos colled weithredol o £6,087,000 - dros bum gwaith yn fwy na'r golled y flwyddyn gynt, hynny yw £1,196,000 yn 2010.

Yn ôl Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, toriadau yng nghyllid S4C sydd wedi arwain at hynny.

Eto, meddai, roedd y sianel wedi ceisio cynnal safon y rhaglenni drwy ddefnyddio arian oedd wedi'i arbed o flynyddoedd blaenorol.

Dywedodd fod y sefyllfa'n dangos "yr her sydd gan y sianel ... i ddarparu gwasanaeth o safon uchel tra'n wynebu toriadau ariannol sylweddol."

£90m

Ellis Roberts yn holi Huw Jones.

Roedd grant Llywodraeth Prydain wedi gostwng o dros £101 miliwn yn 2010 i £90 miliwn yn 2011.

Mae 'na ostyngiad pellach i £83 miliwn eleni - ac o'r flwyddyn nesa, mi fydd y rhan fwya' o gyllid S4C yn dod drwy law'r BBC.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.