Eisteddfod Genedlaethol Dydd Sadwrn Awst 4
Prif bwyntiau
- Heddiw yw diwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012 yn Llandŵ ger y Bontfaen
- Prif gystadlaethau'r Pafiliwn heddiw yw'r Bandiau Pres a'r Corau Cymysg. Yn y prynhawn bydd medalau yn cael eu cyflwyno i enillwyr yr adran Celfyddydau Gweledol
- CYFRANNWCH ar ebost at eisteddfod@bbc.co.uk neu TWITTER - @bbccymru #steddfod2012
-
0928:
Bore da! Mae'r haul yn gwenu yn Llandŵ a'r cystadlu ar fin dechrau yn y Pafiliwn.
-
0933:
Y gystadleuaeth gyntaf yw Bandiau Pres Dosbarth 4. Mae'r arweinydd Hywel Jones newydd groesawu'r gynulleidfa a chyhoeddi mai'r band sy'n agor y cystadlu yw Band Oakdale.
-
0935:
Mae 'na bedwar band yn cystadlu. Wedi i fand Oakdale gyflwyno eu darn hunanddewisiaid, sydd i bara dim hwy na 15 munud, bydd Band Pres Bro Morgannwg, Band Ystradgynlais a Seindorf Arian yr Oakley yn cystadlu.
-
0949:
Yn draddodiadol, diwrnod y bandiau pres yw diwrnod cynta'r Eisteddfod ac mae'r maes eisoes yn llenwi efo aelodau bandiau pres ac arian Cymru yn cario'u hofferynnau yn barod i gystadlu.
-
0956:
Elin Meredith sydd yn eich arwain drwy'r cystadlu bore 'ma ac mae tîm BBC Cymru yn barod i ddod â newyddion y maes a'ch sylwadau Twitter chi hefyd.
Tra ryden ni'n aros am y band nesaf i gystadlu, Seindorf Arian yr Oakley, dyma gip cyntaf ar rai o olygfeydd y maes
-
0957:
O Borthmadog daw Seindorf Arian yr Oakley sydd ar y llwyfan
-
1001:
Beirniaid y gystadleuaeth i Fandiau Pres Dosbarth 4 ydy Kevin Gibbs, Andrew Jones a Lloyd Landry ac mae'r bandiau'n cystadlu am Her-gwpan Ivor Jarvis a £400 o arian Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.
-
1007:
Ar hyn o bryd mae 'na awyr las uwchben Llandŵ, a chan fod y maes ar hen faes awyr, concrid sydd dan draed ar ran fwya'r maes. Dyma ran o gywydd croeso Islwyn Jones:
Yn Llandŵ mae llain o dir
A'n huda draw i frodir
A thalaith ledrith Iolo
I fawr ŵyl o fewn ei fro.
Yma'n glyd bydd mwy na gwledd -
I genedl bydd digonedd.
-
1006: Trydar
@eisteddfod dros 200 o bobl wedi lawrlwytho app yr Eisteddfod ar y diwrnod cyntaf. #cadwmewncysylltiad #steddfod2012
-
1012:
Mae Seindorf yr Oakley yn gadael y llwyfan ar ôl cyflwyniad hwyliog.
-
1018:
'Doedd 'na ddim problemau traffig i'r maes yn gynnar bore 'ma ac os ydech chi ar eich ffordd i lawr i Fro Morgannwg, mae'r Eisteddfod yn gofyn i chi ddilyn yr arwyddion melyn. Mae 'na fap a fanylion teithio fan hyn a chofiwch am fwletinau Radio Cymru.
-
1019: Trydar
@elindawes Gwylio'r bandiau pres yn perfformio yn @eisteddfod yn fyw ar wefan @bbccymru o gaerfyrddin. Gwych! #steddfod2012 #emosiynol
-
1019:
Mae Band Ystradgynlais dan arweiniad Alex Parker yn dechrau efo cerddoriaeth yr A-Team!
-
Trydar
@caerwern Pasio Wrecsam ar y ffordd i #steddfod2012 ymfalchio yn arwyddion ffordd Cyngor Wrecsam yn croesawu steddfod 2011
-
1023:
Mae'n rhaid i bob band pres roi cyflwyniad o 15 munud o gerddoriaeth hunanddewisiad. Mae Band Arian Oakdale, Seindorf yr Oakley - a gychwynnodd ar eu taith o Borthmadog am ddau o'r gloch y bore - wedi bod ar y llwyfan.
-
1024:
Ar ôl i Fand Ystradgynlais gystadlu, mae'r band lleol, Band Bro Morgannwg yn cloi'r gystadleuaeth. Yn nes ymlaen mi fydd Bandiau Pres Dosbarth 3 yn dod i'r llwyfan o gwmpas 11.00.
-
1032:
Mae'r bwrlwm wedi dechrau ar y maes ei hun bore 'ma hefyd. Am 11.00 mae'r Babell Lên yn cael ei agor yn swyddogol gan Lywydd yr Ŵyl, Euryn Ogwen Williams, ac am 16.30 mae rownd derfynol Talwrn y Beirdd yn cael ei chynnal yno a'i ddarlledu ar Radio Cymru am 19.30.
-
1042:
Mae Hywel Jones sy'n arwain bore 'ma newydd sôn am unawdydd Band Ystradgynlais, Cellan Morgan - trydydd cenhedlaeth o'i theulu sydd wedi bod yn aelodau o'r band.
-
1044:
Band Bro Morgannwg sy'n cloi'r gystadleuaeth - cân Tom Jones, Sex Bomb, a Singing in the Rain yn rhan o'u cyflwyniad - ond yn dechrau gyda'r traddodiadol, Gwŷr Harlech.
-
1048:
Cofiwch bod angen diweddaru'r dudalen yma'n gyson (gwasgu refresh) i ddilyn y sylwebaeth destun fyw yma.
-
1051:
Ydych chi ar eich ffordd i lawr? Yn dechrau mynd i ysbryd y Steddfod? Cyfrannwch drwy ebost ar eisteddfod@bbc.co.uk neu dilynwch ni ar Twitter @bbccymru, neu gallwch drydar drwy ddefnyddio #steddfod2012
-
1056: Trydar
@niabennett Edrych ymlaen i ymweld a'r Maes heddiw. Perfformiad @MenterCaerdydd 2pm Theatr detholiad o Nia Ben Aur-dewch yn llu. #steddfod2012
-
1059:
Hwre! Mae'r haul allan!
Yr haul ar faes Eisteddfod Bro Morgannwg
-
1100: Trydar
@grigiar Crwydro maes y Steddfod. Angen welis ond mae'n braf ar hyn o bryd. Teimlo fel sen i gitre #Steddfod2012
-
1101: Trydar
@LleucuLlwyd967 Edrych ymlaen am yr eisteddfod genedlaethol yfory! Siawns hyfryd I ddefnyddio fy nghymraeg!! #steddfod2012 #cymraeg
-
1102:
Ar wahân i'r cystadlu yn y Pafiliwn mae 'na fwrlwm o weithgareddau, perfformiadau, gigs a digwyddiadau yn digwydd yn yr ŵyl, ar y maes ac yn yr ardal, ewch i Ddigwyddiadur Radio Cymru gynllunio eich wythnos.
-
1106:
Sex Bomb gan fand Bro Morgannwg yn gorffen cystadleuaeth gynta' Eisteddfod Bro Morgannwg 2012 a'r llwyfan yn llenwi efo aelodau'r band pres nesaf i gystadlu yng nghystadleuaeth Bandiau Pres Dosbarth 3.
-
1110:
Band Pres Rhondda Uchaf ydy'r cyntaf o chwech yn y gystadleuaeth yma - eto, maen nhw'n cyflwyno detholiad hunanddewisiad o 15 munud.
-
1111:
Elin Meredith sydd yma bore 'ma fel rhan o dîm BBC Cymru sy'n dod â'r diweddaraf ichi o'r Brifwyl ym Mro Morgannwg lle gallwch wylio'r cystadlu yn fyw drwy'r wythnos.
-
1117:
Haul, Steddfod, band pres yn chwarae Bear Necessities dros yr uchelseinydd - be well?!
-
1118:
Mae hi'n prysuro'n arw ar y maes erbyn hyn a'r bandiau pres yn llenwi'r lle! A byddwch yn falch o glywed fod Merched y Wawr yn cynnig paned am ddim. Mi fydd angen lot o de i dorri syched os ydi'r haul yma i aros...
-
1122:
"Tra bod yr athletwyr yn tyrru am Lundain dyma estyn croeso i chi, eisteddfodwyr y wlad i flasu'r Olympiad diwylliannol pwysicaf oll yma yn sir fwyaf deheuol Cymru", meddai Dylan Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, yn Rhaglen y Dydd.
-
1131:
Mae awyren enfawr prosiect Adain Avion yr artist Marc Rees, sydd hefyd yn rhan o'r Olympiad Diwylliannol, ar y maes. Mae 'na lun ohoni a golygfeydd eraill o'r maes yn oriel Radio Cymru.
-
1134:
Mae Band Pres Melingriffith 2 - Band Dinas Caerdydd - yn cymryd lle Band Rhondda Uchaf ar y llwyfan. Dyma'r ail i gystadlu yng nghystadleuaeth Bandiau Dosbarth 3.
-
1136:
Arweinydd band Melingriffith 2 (mae band arall Melingriffith yn cystadlu ddydd Sul) ydy Dewi Griffith, neu Dewi Corn fel mae'n cael ei alw yn yr Orsedd - un o ddau sy'n canu'r corn gwlad yn seremonïau'r Orsedd - mi allwch chi wrando ar raglen amdanyn nhw ar wefan Radio Cymru.
-
Trydar
@eisteddfod Pob hwyl i @MaesD_Steddfod dros y dyddiau nesaf - nifer fawr o weithgareddau yn digwydd drwy gydol yr wythnos #steddfod2012
-
1150:
Ar wahân i gystadleuaeth y Côr Cymysg dros 45 mewn nifer tua 13.10, diwrnod y bandiau pres ydy'r dydd Sadwrn cyntaf: eto i ddod mae Bandiau Pres Dosbarth 2 gyda chwech band yn cystadlu.
-
1157:
Mae seremoni i gyflwyno'r medalau celf yn torri ar y cystadlu o gwmpas tri o'r gloch. Mae tair medal aur yn cael eu dyfarnu ar gyfer Celfyddyd Gain, Crefft a Dylunio, a Phensaerniaeth.
-
1159:
Alice Jones ydy arweinydd Band Arian Cwm Ogwr - trydydd band y gystadleuaeth i fandiau Dosbarth 3 - wnaeth agor eu cyflwyniad efo ffanffêr Olympaidd.
-
1203: Trydar
@ElinA_arlein Gwylio'r rhwyfo ar y Maes yn #steddfod2012 falch bod gan Gymru Fedal Aur arall. Da iawn Tom James a'r tîm
-
1203: Trydar
@colegcymraeg Nebula yn chwarae ym mhabell y Coleg Cymraeg yn y man! #steddfod2012
-
1215: Newid sylwebydd
Helo! Diolch i Elin Meredith am ei sylwebu drwy'r bore. Fi, Huw Meredydd Roberts, sydd efo chi am y cyfnod nesaf. Edrych ymlaen yn fawr i'r cystadlu...
-
1219:
A dyna ddiwedd cyflwyniad Band Arian Cwm Ogwr. Y band nesaf i ymddangos ar y llwyfan ydy Seindorf Arian Tref Rhydaman.
-
1226:
Yr ail ddarn gan Seindorf Arian Tref Rhydaman ydy 'Yn dyner wrth i mi dy adael'.
-
1240:
Adventures in Brass/ Anturiaethau mewn Pres gan Ray Farr ddaeth â chyflwyniad Seindorf Arian Tref Rhydaman i ben. Mae dau fand pres arall i ddod yn y gystadleuaeth.
-
1248:
Seindorf Arian Crwbin sydd yn perfformio eu cyflwyniad hunanddewisiad heb fod yn hwy na 15 munud.
-
1251: Sylw
Dyma raglen Seindorf Arian Crwbin.
1. Ffanffer Olympaidd / Olympic Fanfare.
2. Faclita. Unawdydd - Jonathan Thomas.
3. Bilitis. Unawdydd - Bleddyn Roberts.
4. Just a closer walk. Unawdwyr - Gareth Kirby (Flugel), Jonathan Thomas (Cornet), Alex Williams (Trombôn).
-
Stori Newyddion: 1256:
Hybu technoleg a'r iaith - Gŵyl Dechnoleg Gymraeg yn cael ei chynnal ar y Maes er mwyn hybu technoleg a'r iaith
-
1300:
Cafodd y darn olaf gan Seindorf Arian Crwbin, Just a Closer Walk with Thee, ei glywed yn ffilm James Bond, 'Live and Let Die', fel rhan o orymdaith angladdol.
-
1303:
Mae Radio Cymru yn darlledu yn fyw o'r maes yn ystod yr wythnos, ac ar yr awyr ar hyn o bryd. Hywel Gwynfryn, Rhiannon Lewis, Nia Lloyd Jones a Stifyn Parri sydd wrth y llyw. Dyma Hywel bore 'ma yn paratoi cyn y rhaglen!
Hywel Gwynfryn yn paratoi yn y Steddfod
-
1247: Trydar
@NestGwilym Wedi cyrraedd, mor gyfleus, haul yn gwenu, dewch yn llu! #eisteddfod2012
-
1308:
Y band nesaf, a'r olaf yng nghystadleuaeth Bandiau Pres Dosbarth 3, ydy Band Ynyshir.
-
1313:
Dyma raglen Band Ynyshir, wedi'i arwain gan Dean Evans:
1. Noswyl Rhyfel / Eve of War (Jeff Wayne, trefniant John Blake)
2. Lisa Lân (traddodiadol, trefniant Francis Clifford)
3. Hello Dolly (Jerry Herman, trefniant Klaas van der Woude)
4. Chwedlau Cyfarthfa / Legends of Cyfarthfa (Matthew Hall)
-
1318:
Mae Dean Evans wedi arwain Band Ynyshir ers pum mlynedd a hanner, a bu'n chwarae y tiwba yn y band am 11 mlynedd cyn hynny.
-
Stori Newyddion: 1322:
Cymrawd Eisteddfod yn tywys dysgwyr o gwmpas y Maes - Un o bump Cymrawd yr Eisteddfod yn tywys dysgwyr o amgylch y Maes o dan gynllun mentora newydd.
-
1321:
Sefydlwyd Band Ynyshir gyntaf ym 1898 ac fe'i ail sefydlwyd ym 1946. Roedd Derek Andrews, sydd yn chwarae yr ewffoniwm heddiw, yn blentyn pan ail sefydlwyd y band ym 1946.
-
1328:
Band Ynyshir yn cloi cystadleuaeth Bandiau Pres Dosbarth 3. Y bandiau eraill yn y gystadleuaeth oedd Band Pres Rhondda Uchaf, Band Dinas Caerdydd (Melingriffith), Band Arian Cwm Ogwr, Seindorf Tref Rhydaman a Seindorf Crwbin. Cyhoeddir y canlyniad am 15.10.
-
1335:
Hywel Jones yw Arweinydd Llwyfan yr Eisteddfod ar hyn o bryd.
-
1336:
Canlyniad cystadleuaeth Bandiau Pres Dosbarth 4 i ddod, ac yna cystadleuaeth Côr Cymysg dros 45 mewn nifer.
-
1340: Canlyniad Cystadleuaeth Bandiau Pres Dosbarth 4
- Band Arian Oakdale
- Seindorf Arian yr Oakeley
- Band Pres Bro Morgannwg
Beirniaid: Kevin Gibbs, Andrew Jones a Lloyd Landry
-
1342:
Croeso i Betsan Powys i'r Pafiliwn fel Arweinydd y Llwyfan, a diolch i Hywel Jones am ein harwain drwy'r bore.
-
1347: Sylw
Cystadleuaeth newydd! Côr Godre'r Garth yw'r cyntaf ar y llwyfan yng nghystadleuaeth Côr Cymysg dros 45 mewn nifer.
-
1350:
Dyma raglen Côr Godre'r Garth:
- Y darn gosod - Yna fe dyrr d'oleuni (Mendelssohn, geiriau Cymraeg gan T H Parry Williams)
- Annwyl Faria (Serge Rachmaninoff, geiriau Cymraeg gan Ceri Wyn Jones)
- Marwnad yr ehedydd (trefniant Einion Dafydd)
- O Crux ave. (Rihards Dubra, geiriau Cymraeg gan Alun Tipplady)
- Y Diafol (Eilir Griffiths, geiriau Cymraeg gan Ceri Elen)
-
1354: Blog Rhun ap Iorwerth CyflwynyddDarllen Blog Sadwrn Cyntaf Rhun ap Iorwerth yn llawn
Mae cystadleuaeth Bandiau Pres Dosbarth 4 yr Eisteddfod ar un sgrîn o fy mlaen, a triathlon y merched yn y gemau Olympaidd ar sgrîn arall. Ydi, mae hon yn mynd i fod yn wythnos o blethu dau ddigwyddiad tra gwahanol.
-
1354:
Branwen Evans sydd yn cyfeilio i Gôr Godre'r Garth ac Eilir Griffiths yn arwain. Sefydlwyd y côr ym 1974, ac mae Eilir yn arwain ers naw mlynedd.
-
1402:
Fe enillodd Gôr Godre'r Garth gystadleuaeth Côr Cymysg dros 45 mewn nifer yn 'Steddfod Casnewydd yn 2004, Eryri yn 2005, Abertawe yn 2006, Sir Fflint yn 2007 ac Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009.
-
1403:
Côr Rhuthun yw'r ail gôr ar y llwyfan yng nghystadleuaeth Côr Cymysg dros 45 mewn nifer.
-
1406:
Dyma raglen Côr Rhuthun:
- Y darn gosod - Yna fe dyrr d'oleuni (Mendelssohn, geiriau Cymraeg gan T H Parry Williams)
- Arglwydd y Nefoedd (William Bird, geiriau Cymraeg gan Robat Arwyn)
- Agor di fy llygaid (John Rutter, geiriau Cymraeg gan Dyfnallt Morgan)
- Gwinllan a Roddwyd (Gareth Glyn, geiriau gan Saunders Lewis)
-
1409:
Mair Jones yw cyfeilydd Côr Rhuthun a Robat Arwyn sy'n hyfforddi.
-
1413:
Mae Robat Arwyn yn arwain Côr Rhuthun ers 2008 ac maen nhw newydd ddathlu eu pen-blwydd yn 30 oed.
-
Stori Newyddion: 1413:
Eifion Wyn yn gollwr sâl meddai Dafydd Islwyn mewn cyfrol newydd
-
1415: Trydar
@NestGwilym mwynhau'r corau yn y pafiliwn #steddfod2012
-
1417:
Ar ben-blwydd Côr Rhuthun llynedd, fe wnaethant ganu mewn cyngerdd yng nghwmni Rhys Meirion a rhyddhau CD o'r enw Bytholwyrdd. Maen nhw'n canu gyda Dafydd Iwan mis Tachwedd yn Llandudno, a hefyd bydd cyngerdd ar y cyd gydag Ysgol Glanaethwy yn Theatr Pafiliwn y Rhyl yn mis Mawrth 2013.
-
1418: Trydar
@eisteddfod #steddfod2012 - mae hi'n prysuro ar y Maes! Croeso mawr i'w gael yn Llandw #dewchynllu
-
Stori Newyddion: 1421:
Y gweinidog â chyfrifoldeb am yr Iaith Gymraeg yn galw ar bapurau bro Cymru i ddefnyddio technoleg newydd
-
1423:
Côr Bro Meirion sydd ar y llwyfan nesaf gyda Huw Davies yn cyfeilio ac Iwan Wyn Parry yn hyfforddi.
-
1426:
Dyma raglen Côr Bro Meirion:
- Sanctaidd (cyfieithiad Steven J Williams o'r Sanctus allan o'r Requiem gan Mozart)
- Cariad ddaeth y Dolig (Mansel Thomas. Geiriau gwreiddiol Christina Rossetti a'r addasiad Cymraeg gan Huw S Thomas)
- Hosannah allan o'r Oratorio ''Myfi Yw'' (Linda Gittins, Derek Williams a Penri Roberts)
- Gweddi o Ghana - Cover me with the night (Addasiad Cymraeg Tecwyn Owen a'r gerddoriaeth gan y cyfansoddwr o Dde Affrica - Peter Klatzow)
- Y darn gosod - Yna fe dyrr d'oleuni (Mendelssohn, geiriau Cymraeg gan T H Parry Williams)
-
1428:
Mae hyfforddwr y côr, Iwan Wyn Parry, yn filfeddyg yn Nolgellau ac mae'r cyfeilydd, Huw Davies, yn bennaeth adran gerdd Ysgol Uwchradd Llanfyllin.
-
1431:
Fe ffurfiwyd Côr Bro Meirion ddwy flynedd a hanner yn ôl. Ar ôl i Gôr Eisteddfod y Bala ddod i ben, roedd criw o'r aelodau eisiau parhau ac fe ffurfiwyd y côr newydd yma.
-
1442:
O diar, mae'n bwrw glaw yn drwm nawr! Gobeitho fod eich cotiau glaw gyda chi'n handi.
-
1445:
Ar y llwyfan nawr mae Côr Llanddarog a'r Cylch gyda Rhiannon Pritchard yn cyfeilio a Meinir Richards yn hyfforddi.
-
1440: Newid sylwebydd
Tra fod Huw yn mynd am ei ginio (hwyr!) fe wna i Anwen James gadw cwmni i chi a mwynhau gweddill y corau cymysg dros 45 mewn nifer.
-
1448:
Dyma raglen Côr Llanddarog a'r Cylch:
- Y darn gosod - Yna fe dyrr d'oleuni (Mendlesshon, geiriau Cymraeg gan T H Parry Williams)
- Carol yr Alarch (Gareth Glyn)
- Yr Arglwydd yw fy mugail (Dilys Elwyn Edwards)
- Nes Clywo'r Byd (Eric Jones - gwaith comisiwn i'r cor)
-
1443: Trydar
@catrinmedi79 uchafbwyntiau'r Lle Celf eleni Eleri Mills, Carwyn Evans a Michael Cousin #steddfod2012
-
1451:
Sefydlwyd Côr Llanddarog a'r Cylch ryw ddeng mlynedd yn ôl a phobl y pentref a'r ardal sy'n perthyn iddo.
-
1452:
Mae Ceri Ress sydd fel arfer yn canu alto gyda'r côr wedi cael babi bach, Cai, ddoe. Llongyfarchiadau!
-
1458:
Y tro cyntaf i Gôr Llanddarog a'r Cylch gystadlu oedd ym 2006 ac roedden nhw'n fuddugol yn 2010 a 2011.
-
1501:
Croesawn Gôr Caerdydd i'r llwyfan nesaf dan hyfforddiant Gwawr Owen a Nicola Rose yn cyfeilio.
-
1501:
Cofiwch bod angen diweddaru'r dudalen yma'n gyson (gwasgu refresh) i ddilyn y sylwebaeth destun fyw yma.
-
1506:
Rhaglen Côr Caerdydd yw:
- Heddiw'r Dydd Heddiw Ganed Crist (William Mathias, cyfieithiad gan Delyth Evans)
- Y darn gosod - Yna fe dyrr d'oleuni (Mendelssohn, geiriau Cymraeg gan T H Parry Williams)
- Hi ddaw yn hardd (cyfieithiad o She Walks in Beauty, Paul Mealor, gan Delyth Evans)
- Rytmus gan Ivan Hruovsky (geiriau gan Heulwen Jones)
-
1509:
Mae Côr Caerdydd yn dathlu 20 mlynedd eleni ers ffurfio yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1992.
-
1512:
Maen nhw wedi gwneud tri perfformiad yn ddiweddar o waith Karl Jenkins, The Peacemakers, gan berfformio yn Birmingham, Neuadd Dewi Sant ac Eisteddfod Llangollen.
-
1516: Trydar
@LisaHaf Ieees steddfod wedi dachre. Angen mynd i dre ond ffili gadel cystadleuaeth y core. Lysh. Pob lwc Cor Crymych #steddfod2012
-
1517: Trydar
@apdafyddi #steddfod2012 cawod o law i siglo'r pafiliwn pinc gynna', a myn diawl dyma'r haul eto... Heavy showers on the Maes, mow sunshine again
-
1524:
Y côr ola' i gystadlu yw Côr Crymych a'r Cylch gyda'i hyfforddwr Dr Angharad Thomas a Rhian Davies yn cyfeilio.
-
1525:
Rhaglen Côr Crymych a'r Cylch yw:
- Y darn gosod - Yna fe dyrr d'oleuni (Mendlesshon, geiriau Cymraeg gan T H Parry Williams)
- Y Cariad Cyntaf (traddodiadol, trefniant Holst)
- Dwedwn ni (Lauridsen cyfieithiad gan Dafydd Wyn Jones)
- Cadwyn o ganeuon ysbrydol (trefniant Stephen Pilkinton, geiriau Cymraeg gan Dafydd Wyn Jones)
-
1519: Trydar
@GruffSionRees Edrych 'mlaen i ganu ar lwyfan berfformio'r maes am 18.30 gyda cerddorion awesome y band @Gethinbobs @MarkGH Mared Owen #steddfod2012
-
1526:
Bydd y côr yn teithio i Iwerddon ym mis Hydref i ganu yn Eglwys y Santes Fair yn Youghal ac hefyd yng Nghadeirlan Cork.
-
1528:
-
1534:
Hwrê! Mae'r haul yn gwenu eto. Os ydych chi'n dod i'r maes, cofiwch eich cot law ac eli haul gan fod y tywydd mor newidiol.
-
1538:
Dyna ni, cystadleuaeth Côr Cymysg dros 45 mewn nifer ar ben. Disgwylir y canlyniad tua 17.30.
-
1541:
Nesaf ar y llwyfan mae seremoni cyflwyno enillwyr prif gystadleuaeth yr adran Celfyddydau Gweledol.
-
1544: Canlyniad Cystadleuaeth Bandiau Pres Dosbarth 3
- Band Dinas Caerdydd (Melingriffith)
- Band Arian Cwm Ogwr
- Band Arian Tref Rhydaman
-
1550:
Wedi'r seremoni gyflwyno mae cyflwyniadau gweledol o waith enillwyr y categorïau canlynol:
- Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain
- Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio
- Y Fedal Aur am Bensaernïaeth
-
1515: Trydar
@ArtsEisteddfod Dewch draw i'r Lle Celf a chreu campwaith eich hun - gweithdai am 10:30, 13:00 a 15:00 bob dydd wythnos yr @eisteddfod #steddfod2012
-
1551:
Enillydd Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yw Carwyn Evans, Caerdydd.
-
1556:
Enillydd Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio yw Anne Gibbs, Caerdydd.
-
1558:
Enillydd y Fedal Aur am Bensaernïaeth yw Penseiri HLM Caerdydd.
-
1601:
Gwobr Carwyn Evans yw Medal Aur am Gelfyddyd Gain (replica) a £5,000 i'w rannu yn ôl doethineb y detholwyr.
-
1601: Trydar
@S4Carlein Yfory 5.00 Y Babell Lên ar Faes yr Eisteddfod - Eisteddfod wahanol iawn gyda Cyw! @CriwCyw #steddfod2012
-
1603:
Gwobr Anne Gibbs yw Medal Aur am Grefft a Dylunio (replica) a £5,000 i'w rannu yn ôl doethineb y detholwyr.
-
1604:
Gwobr Penseiri HLM Caerdydd yw Medal Goffa Alwyn Lloyd (replica), ar y cyd â Chymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru
-
Stori Newyddion: 1607:
Y Gemau Olympaidd yn cael effaith ar ddarpariaeth signal ffôn i gwsmeriaid Vodafone ym Mro Morgannwg.
-
1608:
Mae'r llwyfan wedi ei baratoi ar gyfer cystadleuaeth Bandiau Pres Dosbarth 2.
-
1611:
Y beirniaid yw Kevin Gibbs, Andrew Jones a Lloyd Landry a bydd enillwyr y gystadleuaeth yn cipio Cwpan Ivor Jarvis a £400 (gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen)
-
1612:
Y band cyntaf i gystadlu yw Band Arian Y Drenewydd.
-
Lluniau
-
Stori Newyddion:
Cyn-enillydd un o brif ysgoloriaethau'r Eisteddfod Genedlaethol sydd wedi ennill Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain eleni.
-
1619:
Tra mae Band Arian y Drenewydd yn agor cystadleuaeth Bandiau Pres Dosbarth 2, rydyn ni am gymryd hoe. Nôl whap!
-
Stori Newyddion: 1626:
Artist cerameg sydd wedi ennill Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg eleni.
-
1627:
Diolch i Anwen James am ein harwain drwy'r p'nawn o gystadlu. Elin Meredith sydd yma rwan yn mwynhau diwedd perfformiad Band Arian y Drenewydd.
-
1629:
Nesaf ar y llwyfan mae Band Llwydcoed o Ferthyr Tudful sy'n cael eu hyfforddi gan Gary Davies
-
1631:
Wedi'r band yma bydd pedwar arall ar y llwyfan, Band Treherbert a'r Cylch, Band Llanrug, Band Gwaun-cae-gurwen a Band Awyrlu RAF Sain Tathan
-
1633:
Mae'r arweinydd Betsan Powys wedi ein hatgoffa fod un o'r beirniaid, Lloyd Landry wedi ennill yn y Brifwyl pan oedd yn ddim ond deuddeg oed! Fo, Kevin Gibbs ac Andrew Jones sydd wedi bod wrthi'n beirniadu'r bandiau pres ers 09.30 bore ma.
-
1641:
Fe ddechreuodd Band Llwyncoed gyda Ffanffer Olympaidd gan John Williams - trefniant Peter Graham. Mae gweddill eu rhaglen, i fod ddim hwy na 15 munud, yn cynnwys Emerald Skies, Mythic Trevithick! gan Goff Richards a Home of Legends.
-
1641:
Cyfrifydd ydy Gary Davies, yr hyfforddwr, wrth ei alwedigaeth ac mae wedi bod yn arwain Band Llwydcoed ers pum mlynedd. Mae hefyd yn arwain Band Tylorstown sy'n cystadlu yn Nosbarth 1 ddydd Sul.
-
1643:
Mae'r band yma yn dathlu canmlwyddiant yn 2012 ac wedi bod yn cynnal cyngherddau dathlu yng ngefeilldref Rhondda Cynon Taf, Ravensburg yn yr Almaen.
-
1643:
O ran y tywydd yma ar y maes mae hi wedi bod yn gyfnewidiol iawn - ond mwy o haul na glaw! Yn ôl rhagolygon y tywydd, rhyw gymysgedd tebyg fydd hi ar gyfer dechrau'r wythnos hefyd.
-
1652:
Wedi cael cyfle i grwydro mymryn ar y maes p'nawn 'ma. Mae yna deimlad braf iawn yma ac rydw i'n edrych ymlaen i weld mwy ar y Maes Gwyrdd ym mhen pella'r maes os ca'i gyfle - bendant yn edrych fel lle da i ymlacio!
-
1657: Trydar
@ManonAngharad CYNTAF! #steddfod2012 #melingriffith2 #champions #joio
-
1700:
Mae Band Treherbert a'r Cylch yn dechrau efo trefniant o ddarn gan Gershwin, Strike up the Band.
-
1702:
Treherbert ydy'r trydydd i gystadlu yn nghystadleuaeth ola'r dydd, Bandiau Pres Dosbarth 2. Mae 'na dri band i ddod wedyn: Llanrug, Gwaun-Cae-Gurwen ac Awyrlu RAF Sain Tathan, y Barri.
-
1706:
Efallai bod darn nesa'r band yn gyfarwydd i gefnogwyr George Michael - trefniant o 'Faith' - Sian Brimble ydy'r unawdydd.
-
1710:
Pastoralle gan Geoff Richards a Victory from Cry of the Celts - Hardyman gan Peter Graham sy'n gorffen cyflwyniad Band Treherbert a'r Cylch.
-
1712:
Mae Radio Cymru yn darlledu drwy'r dydd o'r Eisteddfod ac mae modd gwrando ar eu holl raglenni o'r Brifwyl ar eu gwefan.
Stifyn Parri (Radio Cymru)
-
1727:
Gallwch weld canlyniad a chlipiau fideo o'r bandiau pres ddaeth yn gyntaf, ail a thrydydd yng nghystadleuaeth Bandiau Pres Dosbarth 4 yn gynharach.
-
1727:
Mae Seindorf Arian Llanrug yn dechrau gyda Henffych y Ddraig, trefniant Gwyn Evans.
-
1727: Trydar
@m0gs Pob lwc i @Llwydcoedband. Gwych i weld band fy mhentref yn cystadlu yn #steddfod2012
-
1728:
A dyma ganlyniad a chlip ar gyfer Cystadleuaeth Bandiau Pres Dosbarth 3.
-
1728: Trydar
@NatalieBragan Pob lwc i fy mrawd a Band Llanrug!! #steddfod2012
-
1729:
Paul Hughes sy'n arwain y band yma ers pedair blynedd ac mae hefyd yn aelod o fand Biwmares. Mae'r aelodau wedi teithio lawr i gystadlu bore 'ma.
-
1731:
Gallwch weld holl ganlyniadau dydd Sadwrn 4 Awst a chlipiau fideo o berfformiadau y cystadleuwyr ddaeth i'r brig.
-
1731:
Mae gweddill eu repertoire - sydd i fod ddim hwy na 15 munud - yn cynnwys The Smile - Matthew Hall, The Acrobat - J A Greenwood, The Ugly Duckling - Moss Hart & Frank Losesser (trefniant Alan Fernie) gan orffen efo Circle of Life, Elton John.
-
1733:
Mi fydd Band Llanrug yn symud i fyny i Ddosbarth 1 ym mis Ionawr. Mae Bandiau Dosbarth 1 yn cystadlu fore Sul, i ddechrau am 11.30.
-
1736:
Meryn Lleu yw'r unawdydd trombôn ifanc.
-
1737: Trydar
-
1748:
Dipyn o Dŵ - Sylwadau dyddiol diwedd dydd o Faes yr Eisteddfod yn Llandŵ gan Glyn Evans.
-
1748:
Wrth i Fand Llanrug adael y llwyfan mae'r Pafiliwn yn rhedeg ychydig yn hwyr - mae 'na ddau fand eto i gystadlu cyn y cawn ni ganlyniad cystadleuaeth y côr cymysg.
-
1750: Trydar
@GarethIwan cyrraedd Llandw yn nhymor monsoon. Haul a glaw fel dilyw. Nifer o bobol mewn pyjamas ar adeg amhriodol: 0. #steddfod2012
-
1752:
Mae'n arllwys y glaw!
Glaw yn Eisteddfod Bro Morgannwg
-
1754:
Mae'r Eisteddfod wedi cyhoeddi'r ffigyrau ymweld ar gyfer y diwrnod cyntaf - 18,207 wedi dod drwy'r giatiau, dros 300 yn fwy nag Eisteddfod Wrecsam 2011 a thua 'run fath â'r Bala yn 2009 (18,216).
-
1754:
Band Gwaun-Cae-Gurwen ydy'r pumed band i gystadlu.
-
1757:
Dr Christian Jenkins, darlithydd Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe, ydy'r arweinydd, ond dim ond dros dro. Mae'r band yn chwilio am arweinydd newydd. Mae cyfarfod ganddynt nos Lun yng Nghwaun-Cae-Gurwen os oes unrhyw un am roi i enw i mewn am y swydd!
-
1802:
Darnau Band Gwaun-Cae-Gurwen ydy Prelude on 'Tallis' gan Peter Graham; trefniant Stephen Bradnum o The Irish Blessing gan Joyce Eilers Bacak; trefniant Darrol Barry o Fly Me To The Moon gan Bart Howard; a threfniant Roger Thorne o Zulu gan John Barry a Sir Edward German.
-
1816:
Wrth i Waun-Cae-Gurwen adael y llwyfan mae'r cymylau du yn cilio uwchben y Pafiliwn hefyd a'r haul yn trïo dod allan eto!
Awyr las uwchben faes Eisteddfod Bro Morgannwg
-
1822:
Mae Band Awyrlu RAF Sain Tathan dan arweiniad Alan Bourne yn sefyll i gyflwyno eu darn cyntaf, Just a Closer Walk.
-
1829:
Mae 'na ddisgwyl eiddgar am ganlyniad cystadleuaeth y corau cymysg ac mae'r arweinydd Betsan Powys wedi datgelu bod y canlyniad ganddi yn barod! Mi fydd yn rhaid inni aros tan y bydd band Sain Tathan wedi gorffen eu cyfwyniad...
-
1829:
Share my Yolk gan Joy Webb - trefniant Ivor Basanko - gyda Claire Bourne yn unawdydd ar y cornet; Mid West gan JJ Richards - trefniant Derek Broadbent ac An American Trilogy, cân draddodiadol wedi ei threfnu gan Goff Richards ydy gweddill eu darnau. Alice Jones ydy'r unawdydd yn y darn ola' ar yr ewffoniwm.
-
1831: Trydar
@eisteddfod Newydd gyhoeddi ffigurau ymwelwyr #steddfod2012 - 18,207 wedi dod i'r Maes heddiw. Y trefnwyr yn hapus tu hwnt!
-
1838:
Diwedd dramatig a chymeradwyaeth i Fand RAF Sain Tathan wrth iddyn nhw adael y llwyfan. Gawn ni ganlyniad rwan tybed?
-
1841:
Y beirniad Lyn Davies sy'n traddodi'r feirniadaeth ar ran ei gyd-feirniaid, Richard Elfyn Jones a John Hugh Thomas.
-
1843:
Canlyniad cystadleuaeth y Corau Cymysg dros 45 mewn nifer:
- Côr Llanddarog a'r Cylch
- Côr Caerdydd
- Côr Godre'r Garth
-
1846:
Meinir Richards sy'n derbyn y brif wobr a chwpan Menai Williams a Mrs Nesta Davies ar ran Côr Llanddarog a'r Cych am flwyddyn arall. Nhw oedd yr enillwyr y llynedd hefyd.
-
1850:
Canlyniad ola'r dydd - Bandiau Pres Dosbarth 2:
- Band Llwydcoed
- Band Llanrug
- Band Treherbert a'r Cylch
-
1850: Blog
Iolo ap Dafydd: E-day i 'Steddfod Bro Morgannwg
D-day - wel, E-day i Steddfod Bro Morgannwg, achos i'r cannoedd sydd wedi gweithio, gwirfoddoli a threfnu, a'r miloedd sydd wedi bod yn codi arian yn lleol, mae'n siwr fod yr oriau cyntaf wedi hedfan gydag ochenaid o ryddhad.
-
1904:
Mae'r cystadlu wedi gorffen am y dydd yn y Pafiliwn. Mi fydd ein llif byw ni nôl fore Sul am 9.30 i ddarlledu'r Oedfa ac yna weddill cystadlu'r dydd.
-
1913:
Gallwch weld holl ganlyniadau y dydd Sadwrn cyntaf a chlipiau o'r rhai ddaeth i'r brig ar ein gwefan.
Cofiwch hefyd am raglenni Radio Cymru o'r Eisteddfod.
Ar S4C, mae Iolo ap Dafydd, Huw Llywelyn Davies, Caryl Parry Jones, Nia Roberts a Rhun ap Iorwerth yn dod ag uchafbwyntiau'r Brifwyl ichi bob dydd.
Ac ar wefan Eisteddfod BBC Cymru mae holl straeon y dydd. Cofiwch ein dilyn ni ar Twitter @bbccymru a thrydar drwy ddefnyddio #steddfod2012
-
1913:
Mae'r Pafiliwn yn cael ei osod ar gyfer cyngerdd o waith Karl Jenkins o'r enw Beirdd Cymru, gyda Dennis O'Neill, Rebecca Evans, Alwyn Humphreys a Cherddorfa Siambr Cymru sydd i ddechrau am 20.00, ond mae'n bryd inni fynd...
-
1923:
Glaw mawr ar y funud, ond fe allai newid! Cofiwch edrych ar ragolygon y tywydd.
-
1956: Blog Nia Lloyd JonesDarllenwch flog gefn llwyfan Nia Lloyd Jones yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.
Wel dyma ni unwaith eto! Mae'n anodd credu bod deuddeg mis wedi mynd ers Eisteddfod Wrecsam...
-
2000: EDRYCH YN ÔL
Ar ran fy nghyd-ohebwyr Anwen James a Huw Meredydd Roberts a finne, Elin Meredith, diolch am eich cwmni ar ddiwrnod cynta' llwyddiannus yn Eisteddfod Bro Morgannwg: y trefnwyr yn hapus iawn efo'r niferoedd a'r tywydd wedi bod yn chwarae efo'n teimladau! Welwn ni chi bore fory am 09.30.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~16~RS~)
