Cadarnhad y bydd ffatrïoedd Remploy yn cau
Mae gweithwyr Remploy wedi cynnal nifer o brotestiadau
Roedd cadarnhad ddydd Mawrth y byddai pump o ffatrïoedd Remploy, sy'n cyflogi gweithwyr anabl, yn cau yng Nghymru.
Roedd saith o'r naw ffatri dan fygythiad a chadarnhaodd yr Adran Gwaith a Phensiynau San Steffan y byddai safleoedd yn Aberdâr, Abertyleri, Merthyr Tudful, Abertawe a Wrecsam yn cau.
Dywedodd y llywodraeth eu bod wedi derbyn cynlluniau busnes hyfyw ar gyfer dau safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chroespenmaen.
Felly bydd modd parhau â'r gwaith yno am y tro.
Mae 300 yn cael eu cyflogi i gyd yng Nghymru ond dyw hi ddim yn glir eto faint fydd yn colli eu gwaith wedi'r cyhoeddiad diweddara'.
Bydd 27 o safleoedd Remploy yn cau ym Mhrydain, gan beryglu cannoedd o swyddi i gyd.
Cyllid £320m“Start Quote
End Quote Phil Davies Undeb y GMBMae cau'r safleoedd hyn, sy'n cyflogi pobl anabl, yn yr hinsawdd economaidd bresennol yn ddedfryd oes o ddiweithdra a thlodi”
Er gwaetha' ymdrechion i foderneiddio'r busnes, mae Llywodraeth Prydain yn dweud ei fod yn colli £72 miliwn pob blwyddyn.
Dywedon nhw y dylai ffatrïoedd Remploy sy'n "anghynaliadwy" gau ac y dylai'r arian gael ei ail-fuddsoddi mewn cynlluniau eraill.
Yn ôl y gweinidog dros bobl anabl, Maria Miller, fe allai'r £320m ar gyfer gwasanaethau cyflogaeth anabl gael ei wario'n fwy effeithiol.
"Mae hyn yn newyddion anodd," meddai Ms Miller, "ond rydym ni'n gwneud popeth posib i sicrhau bod gweithwyr Remploy yn derbyn pecyn iawndal a chefnogaeth i symud o swyddi dan amodau'r llywodraeth i swyddi cyffredin."
Mae cronfa o £8 miliwn yn cael ei sefydlu i helpu'r rhai sy'n colli swyddi.
Eisoes mae 'na sawl protest wedi bod, gan gynnwys y tu allan i San Steffan a bydd undeb y GMB yn cynnal streiciau yn ddiweddarach y mis yma.
'Dedfryd oes'Dywedodd Ysgrifennydd Prydeinig yr undeb, Phil Davies: "Mae'r GMB yn flin iawn bod y llywodraeth wedi cadarnhau y bydd 27 o ffatrïoedd Remploy yn cau erbyn Rhagfyr, gyda'r gweddill i ddilyn.
"Mae cau'r safleoedd hyn, sy'n cyflogi pobl anabl, yn yr hinsawdd economaidd bresennol, yn ddedfryd oes o ddiweithdra a thlodi.
"Byddwn ni'n parhau i streicio ar Orffennaf 19 a 26 ac fe ddylai hynny fod yn gyfle i bob cymuned leol gefnogi'r gweithwyr anabl hyn fydd yn wynebu'r domen sgrap."
'Ergyd fawr'Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r datganiad hwn yn ergyd fawr i weithwyr a ffatrïoedd Remploy yng Nghymru.
"Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU'r cynlluniau i gau fe alwon ni arnyn nhw i ddatganoli cyllid a ffatrïoedd Remploy i Lywodraeth Cymru fel ein bod ni'n gallu creu ein dyfodol cynaliadwy ein hunain ar gyfer y sefydliad.
"Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi gwrthod ystyried hyn.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda Remploy, yr undebau ac eraill â diddordeb er mwyn ystyried a allwn ni ddod o hyd i ateb hyfyw i'r gweithwyr.
Byddwn yn ymdrechu i gael yr ateb gorau ac achub cymaint o swyddi â phosib."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~51~RS~)

Ynys Môn: Comisiynwyr yn gadael
Llys: Gwadu ei fod yn bidoffeil
Sioe myfyrwyr yn delio â dementia
Llwyfan i dalent y sir
Guggenheim i Gymru?
Bradley'n arwain y daith