Higgs Boson ar Faes Eisteddfod Bro Morgannwg
Arddangosfa yn yr Eisteddfod ar waith gwyddonwyr yn Y Swistir efo'r Higgs Boson
Gyda sylw'r byd gwyddonol ar Y Swistir y dyddiau hyn a'r gronyn Higgs Boson, mae yna arddangosfa amserol iawn yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
'Darganfod Gronynnau' yw teitl y brif arddangosfa yn y Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.
Mae'r arddangosfa yn egluro beth mae gwyddonwyr yn ceisio'i ddarganfod yn Y Swistir a'r rôl sydd gan wyddonwyr o Gymru yn y broses.
Cafodd yr arddangosfa ei llunio mewn cydweithrediad â CERN ac Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe.
Un o'r prif atyniadau fydd model enfawr o'r cyflymydd gronynnau yng nghanol y Pafiliwn.
"Mae llawer iawn ohonom yn ymwybodol o'r arbrofion arloesol yng Ngenefa, ond ychydig sy'n deall yn iawn beth mae'r gwyddonwyr yn ceisio'i ateb ac yn gobeithio'i ddarganfod," meddai Robyn Wheldon-Williams, Swyddog Gwyddoniaeth yr Eisteddfod.
"Mae'n gyfnod cyffrous iawn yn Ngenefa ar hyn o bryd gyda'r cyhoeddiad diweddar, eu bod bron yn siŵr eu bod wedi dod o hyd i'r gronyn coll, Higgs Boson".
Cefnogaeth CernMae'r Higgs Boson a elwir weithiau yn "Ronyn Duw" yn disgrifio sut mae'r bydysawd wedi glynu at ei gilydd drwy roi mas i wrthrychau.
Mae'r darganfyddiad yn llenwi bwlch yn y ddamcaniaeth sy'n egluro sut mae'r holl ronynnau, y grymoedd a rhyngweithiau'n cyfuno i siapio'r bydysawd.
Bu'r Eisteddfod yn gweithio'n agos gyda CERN dros y misoedd diwethaf ac un o'r gwyddonwyr Dr Rhodri Jones.
Dr Jones fydd yn cyflwyno'r brif ddarlith wyddonol eleni am 1pm ddydd Sadwrn.
Bydd ei ddarlith, 'Yr LHC - cyflymydd mwyaf pwerus y byd', yn trafod sialensiau gwyddonol a thechnolegol adeiladu'r gwrthdrawydd, ac yn cyflwyno'r canlyniadau diweddaraf a beth mae hyn yn ei olygu i ni.
"Mae'r Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn un o'r pafiliynau mwyaf poblogaidd ar y Maes ac mae'r ffaith bod sefydliadau fel CERN yn ein cefnogi yn dangos ein bod yn gallu denu arddangosfeydd o safon ryngwladol a chydweithio gyda phartneriaid o bob cwr o'r byd," meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.
"Mae'n fraint cydweithio gyda'n partneriaid a chyflwyno darganfyddiadau gwyddoniaeth blaengar i ymwelwyr i'r ŵyl."
Yn ogystal, bydd nifer o weithgareddau rhyngweithiol yn y Pafiliwn ar gyfer holl aelodau'r teulu.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~35~RS~)

Ynys Môn: Comisiynwyr yn gadael
MMR a gofal brys yn flaenoriaethau
Sioe myfyrwyr yn delio â dementia
Llwyfan i dalent y sir
Guggenheim i Gymru?
Bradley'n arwain y daith