Afghanistan: Tri o filwyr wedi eu lladd

Straeon Perthnasol

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau fod tri o filwyr wedi eu lladd yn Afghanistan gan aelod o heddlu Afghanistan.

Roedd dau yn aelod o fataliwn cyntaf y Gwarchodlu Cymreig a'r llall yn aelod o'r Royal Corps of Signals.

Dywedodd llefarydd eu bod wedi eu saethu gan ddyn yn gwisgo lifrai heddlu Afghanistan yn Nhalaith Helmand ddydd Sul.

Mae teuluoedd y tri wedi cael gwybod am y digwyddiad.

Roedd y milwyr yn rhan o luoedd dan arweiniad Nato oedd yn hyfforddi milwyr Afghanistan.

Cafodd y tri eu saethu yn Kamparack Pul lle roeddynt yn mynychu cyfarfod gydag arweinwyr lleol.

Roeddynt yn gadael safle archwilio dan reolaeth yr heddlu pan gawsant eu saethu.

Cafodd y plismon ei anafu a'i arestio'n ddiweddarach.

Yr ymosodiad yw'r diweddara lle mae aelodau o fyddin neu heddlu Afghanistan wedi ymosod ar luoedd y cynghreiriaid.

Ym mis Mai cafodd yr is gorporal Lee Thomas Davies, 27, o Gwarchodlu Cymreig a'r Corporal Brent John McCarthy, 25 oed, eu saethu gan aelodau o heddlu Afghanistan yn Lashkar Gar.

Roeddynt wedi bod yn mynychu cyfarfod diogelwch gyda swyddogion lleol pan gawsant eu saethau gan ddau ddyn yn gwisgo lifrau heddlu Afghanistan.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.