Iechyd: Sut mae Cymru'n cymharu?

Patient being taken into hospital Roedd yr adroddiad yn dangos bod gwariant y pen ar iechyd yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr

Straeon Perthnasol

Mae adroddiad manwl yn cymharu gwasanaethau iechyd yn y Deyrnas Unedig wedi cael ei gyhoeddi gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol.

Mae'n dangos bod Cymru yn gwario mwy na Lloegr ar wasanaethau iechyd fesul y pen o'r boblogaeth.

Ond mae gan Gymru lai o feddygon teulu, mae hyd oes yma ychydig yn llai, ac mae cleifion yn aros yn hwy yn yr ysbyty.

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn mynnu bod y gwasanaeth iechyd yn flaenoriaeth yn y dyddiau economaidd anodd hyn.

Cyhoeddir yr adroddiad ddiwrnod ar ôl i'r Ceidwadwyr honni bod mwy na 10,000 o bobl y flwyddyn yn aros mwy na 12 awr mewn adrannau brys ysbytai yng Nghymru.

Yn ôl ffigyrau ddaeth i law'r blaid, cofnododd ysbytai fod 842 o bobl wedi aros mwy na 24 awr

Mynediad brys

Ond mae adroddiad y swyddfa archwilio hefyd yn dangos bod gan Gymru'r lefel uchaf o fynediad brys i'r ysbyty yn y DU.

Yng Nghymru, roedd y gyfradd mynediad brys yn 2009-2010 yn 11,471 am 100,000 o'r boblogaeth.

Mae hynny 1,500 yn fwy nag yn Lloegr a mwy na 3,000 yn uwch na'r gyfradd yng Ngogledd Iwerddon.

Yn 2010/11 roedd gwariant ar wasanaethau iechyd fesul y pen o'r boblogaeth yn £2,017 yng Nghymru a £1,900 yn Lloegr.

Ond mae'r adroddiad yn awgrymu erbyn 2014 y bydd y bwlch o 6% mewn gwariant yn diflannu.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Darren Millar: "Mae hyn yn rhagor o dystiolaeth annibynnol o raddfa doriadau digynsail y blaid Lafur i'r gyllideb iechyd yng Nghymru."

Ond yn ôl llefarydd ar ran y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths: "Mae'r adroddiad yn dangos yn glir bod Cymru wedi gwario mwy na Lloegr ar wasanaethau iechyd fesul y pen o'r boblogaeth".

Cymharu'r cenhedloedd:

Cymru Lloegr Alban Gogledd Iwerddon

Ffynhonnell: Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol

Disgwyliad hyd oes ar enedigaeth: Dynion - 2008-2010

77.6 blynedd

78.6 blynedd

75.9 blynedd

77.1 blynedd

Gwariant y person ar wasanaethau iechyd - 2010-2011

£2,017

£1,900

£2,072

£2,106

Nifer y meddygon teulu am 100,000 o'r boblogaeth - 2009

65

70

80

65

Arhosiad cyfartalog mewn ysbyty (gwelyau aciwt yn unig) - 2008-09

6.3 diwrnod

4.3 diwrnod

5.7 diwrnod

5.5 diwrnod

Nifer y mynediadau brys am 100,000 o'r boblogaeth - 2009-2010

11,471

9,994

9,917

Ddim ar gael

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.