Enwebu Christine James yn Archdderwydd

Christine James yn Eisteddfod 2005 Enillodd hi'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 2005

Straeon Perthnasol

Yn Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Sir Ddinbych a'r Cyffiniau cyhoeddodd yr Archdderwydd Jim Parc Nest taw un enwebiad oedd wedi ei dderbyn ar gyfer swydd Archdderwydd yn ystod y cyfnod 2013-16.

"Er bod rhaid i gyfarfod blynyddol yr Orsedd gadarnhau'r enwebiad hwn yn y cyfarfod yn ystod yr Eisteddfod eleni, rwyf am gyhoeddi, a hynny'n hapus iawn, mai enw Christine James o Gaerdydd, fydd yn mynd gerbron y cyfarfod blynyddol ym Mro Morgannwg.

"Hi yw'r ferch gyntaf i gael ei henwebu fel Archdderwydd ac mae'n braf iawn cael cyhoeddi hynny," meddai.

Prif wobrau

Yr hyn sy'n nodweddiadol am gysylltiad yr Eisteddfod â Sir Ddinbych yw mai yno y crewyd hanes wrth i fenywod ennill y prif wobrau llenyddol am y tro cyntaf.

Dilys Cadwaladr enillodd y Goron yn Y Rhyl yn 1953 a Mererid Hopwood enillodd y Gadair yn Ninbych yn 2001.

"Christine hefyd yw'r ddysgwraig gyntaf i gael ei henwebu i swydd yr Archdderwydd ac mae hyn hefyd yn destun llawenhau i ni fel cenedl," meddai'r Archdderwydd Jim Parc Nest.

"Llongyfarchiadau mawr i Christine ar ei henwebiad a mawr obeithiaf y bydd hi'n eich annerch chi o'r Maen Llog yn Seremoni'r Cyhoeddi y flwyddyn nesaf."

Christine James Christine: 'Y ddysgwraig gyntaf i gael ei henwebu i'r swydd'
Uniaith Saesneg

Yn wreiddiol o Donypandy yng Nghwm Rhondda, magwyd Mrs James ar aelwyd uniaith Saesneg ac fe ddysgodd y Gymraeg fel ail iaith tra'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Merched Y Porth.

Wedyn enillodd radd anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae'n Uwchddarlithydd yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe, ac yn byw yng Nghaerdydd.

Mae'n briod â Wyn ac yn fam i Eleri, Emyr ac Owain, ac yn fam-gu newydd sbon i Trystan Marc.

Gweithiau celf

Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau yn 2005 am ei chasgliad o gerddi, Lluniau Lliw, a ysbrydolwyd gan rai o weithiau celf mwyaf enwog Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Dywedodd y beirniad, Derec Llwyd Morgan, fod hwn yn "gasgliad o farddoniaeth caboledig a chyffrous".

Roedd Christine hefyd ymhlith enillwyr y gystadleuaeth farddoniaeth ryngwladol Féile Filíochta sawl gwaith ac roedd yn fardd gwadd Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch 2008.

Christine James yn Eisteddfod 2005 Roedd ei chasgliad yn 'gaboledig a chyffrous' yn 2005

Fe'i derbyniwyd i'r Orsedd yn 2002 ac mae'n aelod o Fwrdd yr Orsedd ers 2010.

Daw cyfnod yr Archdderwydd presennol i ben ddiwedd Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.

Caiff yr Archdderwydd newydd ei urddo yn Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2014 a hynny ym mis Mehefin 2013.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.