Ymchwiliad: Disgybl wedi marw

Canolfan reoli Bu farw'r bachgen nos Lun

Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i fachgen farw mewn ysgol breswyl ym Mhowys nos Lun.

Roedd y bachgen yn ddisgybl yn Ysgol Hillcrest Pentwyn yng Nghleirwy ger y Gelli Gandryll.

Mae'n ysgol ar gyfer bechgyn â phroblemau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol difrifol.

Y rheolwyr yw cwmni Hillcrest o Hampshire ac mae bechgyn yn cael eu hanfon yno o bob rhan o'r Deyrnas Unedig.

'Ofnadwy'

Dywedodd Roger Colvin, prif weithredwr Hillcrest: "Mae ein meddyliau ni gyda'i deulu a'i ffrindiau ac ar ran y staff a'r rheolwyr hoffem fynegi ein tristwch oherwydd y newyddion ofnadwy hyn.

"Rydym yn cynnal ymchwiliad mewnol llawn ac yn cydweithio â'r heddlu, swyddfa'r crwner a chyrff rheoleiddio."

Roedd cefnogaeth ychwanegol yn cael ei rhoi i fechgyn yr ysgol, meddai.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio ac nad oedd y farwolaeth yn amheus.

'Colled'

Mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, AC Brycheiniog a Maesyfed, wedi dweud: "Mae'n golled drist i'r teulu a'r ysgol ac rydym yn meddwl amdanyn nhw ar yr adeg anodd hon."

Roedd yn falch fod ymchwiliad wedi ei lansio, meddai, am ei bod yn bwysig darganfod beth ddigwyddodd a sut y byddai modd osgoi trychineb yn y dyfodol.

Mae'r ysgol wedi ei chofrestru gan Lywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.