Cyhoeddi bil drafft rhoi organau
Byddai cynlluniau Llywodraeth Cymru yn ychwanegu enwau pawb at y gofrestr rhoi organau yn awtomatig
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion newid trefn rhoi organau.
Bydd pobl yn rhoddwyr os nad ydyn nhw wedi optio allan o fod ar y gofrestr rhoi organau, yn ôl y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) Drafft.
Mae'r rhai o blaid y newid wedi dweud y bydd yn golygu mwy o organau ar gael ar gyfer trawsblaniadau.
Ond mae arweinwyr eglwysi yn erbyn y newid ac mae Cymdeithas y Gyfraith wedi galw am fwy o eglurder am rôl y teulu pan fydd perthynas yn marw.
Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i fabwysiadu system caniatâd tybiedig.
2015Mae'r bil drafft yn cael ei gyhoeddi wedi ymgynghoriad cyhoeddus ac mae gweinidogion wedi dweud bod y canlyniadau'n cefnogi eu cynlluniau.
MANYLION
- Mae'r llywodraeth yn rhagweld y bydd y drefn yn cael ei gweithredu yn 2015
- O dan y system newydd mae pobl yn cael cyfle naill ai i benderfynu'n ffurfiol i fod yn rhoddwr (optio i mewn) neu i beidio â bod yn rhoddwr (optio allan), drwy osod eu henw ar gofrestr
- Y bil yn golygu y bydd pobl dros 18 oed, sy'n dewis peidio â gwneud y naill na'r llall, wedi cydsynio a gwneud penderfyniad cadarnhaol i roi eu horganau a meinweoedd i'w trawsblannu
- Mewn achosion lle nad yw unigolyn wedi optio i mewn nac optio allan, ni fydd yn ofynnol i aelodau'r teulu roi eu cydsyniad i'r rhodd oherwydd ystyrir fod cydsyniad yr ymadawedig eisoes wedi'i roi. Ond mae'n bwysig pwysleisio y caiff y mater hwn o roi organau ei drin mewn modd sensitif. Fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, bydd teuluoedd yn dal i fod â rhan yn y broses, ac ni fydd modd bwrw ymlaen heb eu cymorth nhw.
- Ni fydd 'cydsyniad a ystyrir' yn gymwys i bawb - bydd camau i ddiogelu plant, pobl nad yw'r gallu ganddyn nhw i gydsynio, a phobl nad ydyn nhw'n byw yng Nghymru.
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru
Pan fydd y mesur yn cael ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol, fe allai fod mewn lle erbyn 2015.
Gyda 300 o bobl ar y rhestr aros am organau, mae Llywodraeth Cymru am geisio gwella graddfa rhoi organau.
Ond mae'r Eglwys yng Nghymru, Eglwys Babyddol Cymru a'r Genhadaeth Uniongred yng Nghymru wedi galw am ail-ystyried.
Dywedodd llefarydd ar ran Yr Eglwys yng Nghymru: "Mae cytuno i fod ar y rhoddwr organau yn rhywbeth y dylai pob Cristion annog pobl i'w wneud ond fel unrhyw rodd allgarol, fe ddylai organau a meinwe gael eu rhoi yn rhydd nid yn dybiedig.
'Eglurder'"Ac mae'n braf cael mwy o eglurder am y system, yn enwedig o ran cydnabod pwysigrwydd y teulu adeg y penderfynu."
Dywedodd Cymdeithas Cleifion Arennau Cymru eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad.
Yng Nghymru mae dros 2,500 o aelodau ac ers 12 wythnos maen nhw wedi hysbysu pobl Cymru am y newidiadau.
Bydd ymgynghoriad y bil drafft yn dod i ben ar Fedi 10, 2012.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~31~RS~)

Nigel Evans AS wedi ei arestio eto
Hafan y Llewod ar bbc.co.uk/cymru
Hyrwyddo Maes B
'Enillydd teilwng'
Ymgynghori?