Awstralia 25-23 Cymru
Rob Simmons a Bradley Davies yn mynd am y bêl
Awstralia 25-23 Cymru.
Collodd Cymru'r ail gêm brawf yn erbyn Awstralia gyda chic ola'r gêm yn Melbourne.
Roedd gan Gymru fantais o un pwynt tua diwedd gêm galed yn yr ail gêm brawf diolch i ddau gais gan George North a Jonathan Davies.
Ond fe ildiodd Cymru gic gosb yn yr eiliad olaf, ac fe drosodd Mike Harris y gic o'r ystlus i sicrhau buddugoliaeth ryfeddol mewn gêm aeth o un pen i'r llall am 80 munud bron.
Wedi iddyn nhw golli'r prawf cyntaf, roedd tîm hyfforddi Cymru wedi pwysleisio'r pwysigrwydd o ddechrau'n dda y tro hwn.
Fe gafwyd hynny.
Fe deimlwyd absenoldeb George North am y rhan fwyaf o'r prawf cyntaf wedi iddo adael y maes gydag anaf, ond y tro hwn fe groesodd yr asgellwr am gais cynnar i adael Cymru ar y blaen wedi 20 munud.
Cadwodd Cymru'r fantais tan funud olaf yr hanner cyntaf pan sgoriodd Rob Horne gais i'r tîm cartref i'w gadael ar y blaen o 13-7 ar yr egwyl.
Cyfnewid ciciauGyda Chymru'n ildio ciciau cosb yn gyson, fe sgoriodd Berrick Barnes pum cic yn y gêm i gadw'r pwysau ar Gymru, ond y crysau cochion gafodd ail gais ar ddechrau'r ail hanner wrth i Jonathan Davies dirio'r bêl.
Aeth y fantais o un tîm i'r llall am gyfnod hir wrth i Barnes a Leigh Halfpenny gyfnewid ciciau cosb, a gydag eiliadau yn unig yn weddill o'r gêm Cymru oedd ar y blaen o un pwynt.
Ond yna'r drosedd arweiniodd at dorcalon.
Doedd y gic ddim yn un hawdd, a gyda Berrick Barnes wedi gadael y maes a Mike Harris ymlaen yn ei le, roedd Cymru a'u cefnogwyr yn croesi'u bysedd na fyddai'r gic yn llwyddiannus.
Ond roedd cic Harris yn gywir, gan sicrhau bod record Cymru o beidio ennill oddi cartref yn erbyn Awstralia ers 1969 yn parhau, ac hefyd mai Awstralia sydd eisoes wedi ennill y gyfres i dair gêm brawf gydag un gêm yn weddill y penwythnos nesaf.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~54~RS~)

Ynys Môn: Comisiynwyr yn gadael
Achos April: Tystiolaeth yn dod i ben
Llwyfan i dalent y sir
Cyhoeddi dau app Cymraeg newydd
Sioe myfyrwyr yn delio â dementia
Cân y babis