Llifogydd: Apêl yn cael ei lansio

Ellen ap Gwynn Dywedodd y cynghorydd Ellen ap Gwynn mai nod yr apêl yw cynorthwyo'r rheiny sydd wedi dioddef yn dilyn y llifogydd

Straeon Perthnasol

Mae arweinydd Cyngor Ceredigion wedi datgan bod apêl yn cael ei lansio i unigolion a chymunedau sydd wedi dioddef o ganlyniad i'r llifogydd sydd wedi taro gogledd Ceredigion.

Dywedodd y cynghorydd Ellen ap Gwynn mai nod yr apêl yw cynorthwyo'r rheiny sydd wedi dioddef yn dilyn y llifogydd yn ardal Aberystwyth a gogledd Ceredigion.

Fe gafodd 150 o bobl eu hachub gan y gwasanaethau brys ac o leiaf fil o bobl eu gorfodi i symud i fan diogel.

Cafodd tri o bobl eu trin am fân anafiadau.

'Torcalonnus'

Bu'n rhaid i nifer o bobl dreulio'r noson gyda ffrindiau neu mewn gwestai ar ôl i'w cartrefi a'u carafannau gael eu dinistrio.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn: "Rwyf wedi gweld yn bersonol y dirfod mae'r llifogydd wedi gadael ar eu hôl.

"Mae'n dorcalonnus gweld cynifer o gartrefi wedi eu dinistrio a chynifer o bobl wedi colli eu heiddo personol.

"Fy ngobaith yw trwy lansio'r apêl hwn y gallwn gynorthwyo'r rheiny sydd wedi dioddef gymaint i gael trefn ar eu bywydau cyn gynted â phosibl.

"Mae hefyd wedi bod yn galonogol gweld y cymunedau'n dod at ei gilydd i gynorthwyo gyda'r gwaith glanhau."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion y bydd mwy o fanylion am yr apêl yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.