Gruffudd Antur yw Prifardd yr Urdd yn Eryri 2012

Gruffudd Antur 'Cynganeddwr rhyfeddol,' meddai'r beirniaid

Gruffudd Antur yw Prifardd yr Urdd yn Eryri 2012.

Daw o Lanuwchllyn ger Y Bala ac mae newydd orffen ei ail flwyddyn yn astudio Ffiseg yn y brifysgol.

Derbyniodd ei addysg gynradd yn Ysgol O M Edwards, Llanuwchllyn, a'i addysg uwchradd yn Ysgol y Berwyn, Y Bala, lle bu'n brif fachgen.

Y dasg i'r 13 cystadleuydd oedd cyfansoddi cerdd gaeth neu rydd heb fod dros 100 llinell ar y testun Cylchoedd.

Y beirniaid oedd Rhys Iorwerth ac Ifan Prys.

"Dyma awdl grefftus ac amserol sy'n perthnasu darlith Saunders Lewis i'w fywyd fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw ac i Gymru yn ehangach," meddai'r ddau.

"Mae'n gynganeddwr penigamp, yn gwbl feistrolgar a glân.

"Ond mae ganddo afael sicr iawn ar grefft ehangach barddoni.

"Dyma awdl sydd wedi ein hargyhoeddi.

"Mae'n amlwg bod y bardd wedi synfyfyrio'n hir uwch ei destun cyn rhoi geiriau ar bapur."

'Uchelgeisiol'

Dywedodd y beirniaid fod 'na ddau'n teilyngu cael eu cadeirio ond eu bod wedi gosod gwaith Gruffudd fymryn ar y blaen, yn annibynnol ar ei gilydd.

Cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2012 Cafodd y Gadair ei gwneud o dderw

A'r rheswm oedd "nid yn uniongyrchol oherwydd ei fesurau ar y canu caeth ond oherwydd ei fod yn fwy uchelgeisiol wrth ymdrin â'i themâu a bod ei awdl yn fwy hyderus ... yn hynny o beth.

"Wrth gwrs, rhaid cydnabod bod ei allu cynganeddu yn rhyfeddol ac ystyried cyfyngiad oedran y cystadleuwyr."

Mae diddordebau Gruffudd yn cynnwys darllen, ysgrifennu a gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg.

Dywedodd ei fod yn ymrysona, yn talyrna ac yn stompio'n rheolaidd, yn aelod o dîm ymryson "Y Disgyblion Ysbas" ac yn gyn-aelod o dîm talwrn Ysgol y Berwyn.

Arferai ganu'r trombôn i Seindorf Arian yr Oakeley ym Mlaenau Ffestiniog ac i Fand Pres a Symffonig Gwynedd a Môn.

'Dyled'

"Cefais fy ngwers gynganeddu gyntaf ym Mlwyddyn 7 gan Huw Dylan Jones a phan oeddwn i yn y chweched dosbarth mi ges i gyfres o wersi cynganeddu gan y Prifardd Elwyn Edwards ("Swêl").

"Dyna pryd y dechreuais fynd ati i gynganeddu o ddifrif. Mae fy nyled iddo'n wirioneddol fawr.

"Roedd cael bardd a chynganeddwr cystal ag Arwel Emlyn Jones fel athro Mathemateg yn y chweched hefyd yn fodd i gadw'r arfau cynganeddol yn loyw."

Cyhoeddir ei waith yn rheolaidd yn Barddas ac mae ganddo golofn fisol yn Y Glec.

Mae wedi cystadlu'n rheolaidd yn yr Urdd ar y cystadlaethau llwyfan a'r cystadlaethau gwaith cartref fel aelod o Adran Bentref Llanuwchllyn, Ysgol y Berwyn, Aelwyd Llanuwchllyn ac Aelwyd Penllyn, ac enillodd Dlws Gerallt Jones, Caerwedros ddwywaith.

Dyma'r ail dro iddo gystadlu am y Gadair - daeth yn ail yn y gystadleuaeth yng Ngheredigion yn 2010.

Pedwaredd Gadair

Hon yw ei bedwaredd Gadair Eisteddfodol.

Enillodd Gadair yr Eisteddfod Ryng-golegol yng Nghaerdydd y llynedd ac ym Mangor eleni ac enillodd Gadair Eisteddfod Llanuwchllyn yn 2011.

Yn ail yn y Gadair eleni roedd Steffan Gwyn, Ysgol Uwchradd Tryfan, Bangor Ogwen.

Yn drydedd roedd Catrin Haf Jones, Aelwyd Aeron, Ceredigion.

Cafodd y Gadair ei rhoi er cof annwyl am dad a mab sef Meirion a Ceredig Parry, Fron Olau, Rhoslan, Cricieth.

Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans noddodd y seremoni.

Mwy Am y Stori Hon

URDD 2012

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.