Aled Wyn Clark yw Prif Gyfansoddwr yr Urdd
Aled Wyn Clark enillodd Y Fedal Gyfansoddi yn Eisteddfod yr Urdd 2012
Aled Wyn Clark yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod Yr Urdd Eryri 2012.
Daw o Brestatyn, Sir Ddinbych, ac fe dderbyniodd ei addysg yn Ysgol Y Llys, Prestatyn, ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy.
Dyma'r trydydd tro i Aled gystadlu ac mae ar hyn o bryd yn aros am ganlyniadau ei radd ar ôl treulio tair blynedd yn astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Derbyniodd Aled Fedal Goffa Grace Williams a roddwyd eleni gan Bwyllgor Chwilgig.
Roedd hefyd yn derbyn Gwobr Glyn Jones, sef £400 yn rhodd gan Ymddiriedolaeth Pendyrys.
13 ymgaisGareth Glyn oedd y beirniad ar y 13 ymgais.
"Doedd 'na'r un ymgais wael ac arwydd o safon y gystadleuaeth oedd i mi newid fy meddwl sawl tro cyn penderfynu pwy oedd yn dod i'r brig," meddai.
"Mae'n golygu bod rhai aflwyddiannus wedi eu hystyried o ddifri am y brif wobr."
Dywedodd bod y gwaith buddugol, Awel Hwyrnos, yn dangos gwybodaeth drylwyr o natur y ddau offeryn, y delyn a'r clarinét.
'Profiadol'"Mae hefyd yn gwybod am dechnegau estynedig yr offerynnau.
“Start Quote
End Quote Aled Wyn Clark Enillydd Y Fedal GyfansoddiRwy'n hoffi gwrando ar gerddoriaeth ffilm a chlasurol a chyfrannu tuag at amrywiaeth o brosiectau ffilm amaturaidd”
"Cydweithio effeithiol rhwng yr offerynnau, triniaeth gelfyddyd o'r nawsau ac o fewn strwythur rhydd elfennau sy'n ail ymddangos.
"Mae'n amlwg i mi bod Awel Hwyrnos eisoes yn brofiadol ym maes cyfansoddi ac mewn cerddoriaeth yn gyffredinol.
"Dwi'n hyderus y bydd yn cael llwyddiant yn ei yrfa neu ei gyrfa.
"Mae Awel Hwyrnos yn medru llunio darn effeithiol dros ben yn yr arddull sydd wedi ei dewis."
AnogaethDywedodd Aled fod y diddordeb mewn cyfansoddi ers yn ddisgybl a'i fod wedi cael llawer o anogaeth werthfawr oddi wrth ei athrawon Cerdd, ei deulu a ffrindiau.
"Yr wyf wedi bod yn aelod o'r Urdd ers yr ysgol gynradd - enillais ddwy wobr gyntaf yn y gystadleuaeth Gyfansoddi (categori Bl.10 i 13) yn 2006 a 2008 a chefais ail yng nghystadleuaeth y Fedal Gyfansoddi yn 2010 a 2011.
"Yn fy amser hamdden rwy'n hoffi gwrando ar gerddoriaeth ffilm a chlasurol a chyfrannu tuag at amrywiaeth o brosiectau ffilm amaturaidd.
'Uchelgais'"Fy uchelgais yw parhau i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth gerddorol gyda'r gobaith o gyfansoddi ar gyfer ffilm a / neu deledu yn y dyfodol."
Yn ail roedd Rhydian Gwyn Lewis o Gaernarfon ac yn drydedd roedd Alys Hughes, Rhanbarth Meirionnydd.
Y dasg oedd cyfansoddi naill ai:
- cylch o ganeuon ar eiriau Cymraeg o ddewis y cystadleuydd;
- rhangan neu gytgan i unrhyw gyfuniad o leisiau ar eiriau Cyrmaeg o ddewis y cystadleuydd;
- cyfansoddiad i un neu ddau offeryn;
- cyfansoddiad i ensemble offerynnol.
Cafodd y seremoni ei noddi gan Goleg Meirion Dwyfor.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~19~RS~)

Ynys Môn: Comisiynwyr yn gadael
Ymosodiad: Cadarnhad mai milwr fu farw
Llwyfan i dalent y sir
Guggenheim i Gymru?
Bradley'n arwain y daith
Cân y babis