Estyn cynllun hylendid bwyd
Bydd cwmnïau sy'n cyflenwi bwytai, bwytai bwyd parod a ffreuturau yn rhan o gynllun marciau hylendid, yn ôl y Gweinidog Iechyd.
Bydd cynigion Llywodraeth Cymru yn gorfodi'r busnesau hyn i ddangos sgôr hylendid bwyd rhwng 0 a 5 ar eu hadeiladau.
Mae'r cynllun wedi ei ehangu i fusnesau sy'n paratoi bwyd ond ddim yn ei werthu'n uniongyrchol i gwsmeriaid.
Bydd y cynllun estynedig yn cynnwys cynhyrchwyr, cyfanwerthwyr a chludwyr bwyd.
'Safonau'Dywedodd y gweinidog, Lesley Griffiths: "Mae hylendid bwyd yn hollbwysig o ran gwarchod iechyd cyhoeddus.
"Bydd y cynllun graddio yn helpu gwella safonau ac o fudd i ddefnyddwyr a busnesau.
"A bydd cwsmeriaid yn gallu gwneud dewis mwy deallus ynghylch ble maen nhw'n dewis bwyta neu siopa am fwyd."
Cafodd cigydd o Ben-y-bont ar Ogwr, William Tudor, ei garcharu am flwyddyn am droseddau diogelwch bwyd oedd yn ymwneud ag achos E.coli marwol yn Ne Cymru yn 2005.
O dan y cynlluniau newydd fe fydd busnesau fel hyn sy'n cyflenwi bwyd a chynhwysion sydd wedi eu paratoi ar gyfer manwerthwyr eraill yn gorfod dangos eu sgôr hylendid bwyd.
32,500Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai 2,500 busnes ychwanegol yn rhan o'r cynllun, cyfanswm o 32,500 o fusnesau.
Roedd adolygiad yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn 2011 yn awgrymu mai dim ond 31% o fusnesau bwyd oedd yn dangos eu sgôr hylendid bwyd yn wirfoddol.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd y cynllun statudol newydd mewn lle erbyn mis Tachwedd 2013.
Cymru fydd rhan gynta'r Deyrnas Gyfunol lle bydd rhaid dangos sgoriau hylendid bwyd.
Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, AC: "Rydym yn croesawu'r cam sylweddol hwn o ran gwella safonau hylendid bwyd yng Nghymru.
"Mae arddangos marciau hylendid ar adeiladau yn rhoi gwybodaeth glir i gwsmeriaid i'w galluogi i wneud penderfyniad deallus ynglŷn â lle y byddan nhw'n bwyta neu brynu eu bwyd.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymgyrchu am gynllun marciau hylendid i roi grym i gwsmeriaid ers tro.
'Cydweithio'"Rwy'n gobeithio y bydd gweinidogion yn cydweithio'n effeithiol â busnesau a chwsmeriaid o ran gweithredu'r cynllun hwn ac archwilio ffyrdd o sicrhau y bydd gwybodaeth ychwanegol am arolygiadau hylendid ar gael i'r cyhoedd."
Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams: "Rydym yn croesawu cyflwyno'r Deddf Sgôr Hylendid Bwyd ac yn gobeithio y bydd cefnogaeth drawsbleidiol.
"Mae gan bobl Cymru'r hawl i fwynhau bwyd sydd wedi cael ei baratoi mewn llefydd glân.
"Roedd y cynllun hwn yn rhan o'n maniffesto'r llynedd ac fe fyddwn ni'n cyd-weithio â Llywodraeth Cymru i weithredu'r polisi."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~14~RS~)

OFCOM yn herio Comisiynydd
Dyn yn pledio'n euog i ddynladdiad
Sir yn croesawu'r Urdd
Dau app Cymraeg
Anrhydeddau'r Orsedd
Delio â dementia